Warenkorb
Kostenloser Versand
Unsere Operationen sind klimaneutral

Chwyn - Blodeugerdd Barddas o Gerddi Doniol, Deifiol a Di-Chwaeth Gruffudd Owen

Chwyn - Blodeugerdd Barddas o Gerddi Doniol, Deifiol a Di-Chwaeth von Gruffudd Owen

Chwyn - Blodeugerdd Barddas o Gerddi Doniol, Deifiol a Di-Chwaeth Gruffudd Owen


€5.39
Zustand - Sehr Gut
Nur noch 2

Zusammenfassung

A collection of humorous poems, collected by stompmaster Gruffudd Owen.

Chwyn - Blodeugerdd Barddas o Gerddi Doniol, Deifiol a Di-Chwaeth Zusammenfassung

Chwyn - Blodeugerdd Barddas o Gerddi Doniol, Deifiol a Di-Chwaeth Gruffudd Owen

A collection of humorous poems, collected by stompmaster Gruffudd Owen.

Chwyn - Blodeugerdd Barddas o Gerddi Doniol, Deifiol a Di-Chwaeth Bewertungen

Darllen difyr iawn, 'chan. Difyr iawn. Dwi 'di cael pleser mawr yn gafael yn y gyfrol yma'n ysbeidiol rhwng perfformiadau, gan ddarllen ryw bedair neu bum cerdd ar y tro. Be gewch chi yn y casgliad yma gan amrywiol o feirdd cyfoes Cymru ydi canu ysgafn, doniol, deifiol a ffraeth ar nifer o destunau gwahanol. Mae yna amrywiaeth mawr hefyd yn arddull y cerddi, o'r cywyddau a'r englynion caeth i gerddi odl a mydr a cherddi rhydd efo iaith hollol naturiol bob dydd. Da! Diddorol mai Chwyn ydi teitl y gyfrol, gan mai pethau ffiaidd ac atgas yw chwyn fel arfer, i'w difa a'u gwared er mwyn gwneud lle i'r blodau tlws cain - sef y farddoniaeth safonol ddifrifol ddwys a edmygir cymaint. Ond mae mawredd mewn chwyn hefyd. Y mae ganddynt ruddin a gwraidd a styfnigrwydd i fynnu eu lle. A diolch i'r drugaredd am hynny. Yn eironig ddigon, yng ngherdd gynta'r casgliad, mynnu garddwr y mae Rhys Iorwerth i'w helpu i wared ei driffids, 'yn ei rhaib a'i blagur ha', mae sin fel Amazonia.' Chwyn ar ei wyneb sydd gan Iwan Rhys yn 'Marwnad fy Marf'. Mae llinellau gwych y gerdd yn ymdebygu ei dyfiant barfog i 'pennaf sgrwbiwr ffrimpenni' a 'fy nhumbleweed, fy Numbledore'. Dwi'n dotio at gywydd Llyr Gwyn Lewis 'Yr Wylan' a'i adleisio clyfar ond troedig ar gerdd eiconig Dafydd ap Gwilym - 'Achwyn y mae am gachu! - am bibo di-baid y gwylanod arno, ond er ei gwyn ni all eu casau - 'swn rhain yw swn y 'nhre i'. Mae nifer o barodiau llawn dychymyg fel 'Gwerthu' gan Arwel Pod ac ambell gic hob-nelar gwleidyddol fel 'Can y Llamhidydd' gan Osian Rhys. Ac mae 'thtori Crwyth y pythgodyn thi bath' gan Iwan Rhys yn gneud imi chwerthin rwan wrth ei chofio hyd yn oed. Mae hi'n apelio'n fawr at fy synnwyr digrifwch swreal o hurt ac od i, ac am ryw reswm yn f'atgoffa o gerdd wych Stanley Holloway, 'The Lion and Albert'. A'r diweddglo mor annwyl a diniwed anticleimacs. Ni allaf enwi pob bardd a dyfynnu o bob cerdd ond gwir yw dweud bod perlau ar fwclis y sgwennu trwyddi draw. Os oes gennych synnwyr digrifwch o gwbl, yna mi wnewch fwynhau darllen Chwyn. Bydded i'r math yma o gerddi gael eu cytir eu hunain, a hwnnw ar dir ffrwythlon gyda digon o olau dydd chwaeth a dwr hiwmor. Mae mawredd mewn mieri! -- Dafydd Emyr @ www.gwales.com

Zusätzliche Informationen

GOR010904689
9781911584261
191158426X
Chwyn - Blodeugerdd Barddas o Gerddi Doniol, Deifiol a Di-Chwaeth Gruffudd Owen
Gebraucht - Sehr Gut
Gebundene Ausgabe
Cyhoeddiadau Barddas
20191107
120
N/A
Die Abbildung des Buches dient nur Illustrationszwecken, die tatsächliche Bindung, das Cover und die Auflage können sich davon unterscheiden.
Dies ist ein gebrauchtes Buch. Es wurde schon einmal gelesen und weist von der früheren Nutzung Gebrauchsspuren auf. Wir gehen davon aus, dass es im Großen und Ganzen in einem sehr guten Zustand ist. Sollten Sie jedoch nicht vollständig zufrieden sein, setzen Sie sich bitte mit uns in Verbindung.