Sylfeini Cyfieithu Testun: Cyflwyniad i Gyfieithu Proffesiynol by Ben Screen
Maer gyfrol hon yn tywys cyfieithwyr newydd ar rhai sydd au bryd ar weithio yn y maes trwy brif egwyddorion llunio cyfieithiad da. Maen trafod gwaith cyfieithwyr o safbwynt diogelu ller iaith yn y gymdeithas, yn egluro beth sydd ei angen ar ddarpar gyfieithwyr o ran sgiliau a gwybodaeth, ac yn dangos y gwych ar gwachul er mwyn cynorthwyo cyfieithwyr i lunio gwaith da heb y llediaith ar cyfieithu lletchwith. Maen taflu goleuni ar yr amryfal dechnegau y mae cyfieithwyr cymwys yn eu defnyddio, or broses ddarllen hyd at y broses adolygu, ac maen gwneud hynny trwy enghreifftiau o gyfieithiadau go iawn a gyhoeddwyd. Maen trafod cyfieithu peirianyddol, dyfodol y proffesiwn a sut i wneud y defnydd gorau or dechnoleg ddiweddaraf. Mae ymchwil academaidd hefyd yn elfen gref or gwaith, ac maer cyngor ar canllawiau yn seiliedig ar yr ysgolheictod trylwyraf ynghyd a phrofiad yr awdur or byd cyfieithu proffesiynol.