Mae popeth am gyfrol farddoniaeth gyntaf Casia Wiliam yn gryno, o faint y llyfr a hyd mwyafrif y cerddi i deitlaur cerddi hynny. Ond crynoder llawn sylwedd yw ei hanfod. Eiliad ac Einioes ywr ddiweddaraf iw chyhoeddi yn y gyfres Tonfedd Heddiw Barddas sydd, dros y blynyddoedd, wedi rhoi llwyfan i leisiau beirdd ifanc a rhywbeth iw ddweud ar ddawn iw ddweud yn gofiadwy. Ond dywed Casia yn ei chyflwyniad ir cerddi hyn 35 ohonynt ei bod wedi cymryd cryn amser iddi hi fagur plwc i gyhoeddi ei chasgliad cyntaf, er bod ganddi sylfeini i ymfalchio ynddynt. Bun aelod cynhyrchiol o dim Y Ffoaduriaid ar Y Talwrn am rai blynyddoedd a hi oedd Bardd Plant Cymru 201719. Yn ystod y cyfnod hwnnw dangosodd fod ganddir ddawn ddiamheuol i ysbrydoli plant yn ogystal ag i gyffwrdd calonnau o bob oed drwy ei hawen. Clywn awgrym o feirniadaeth nawddoglyd weithiau wrth i ambell un ddefnyddior ansoddair domestig i ddisgrifio darn o lenyddiaeth. Ond onid wrth ein traed, yn y manion bob dydd, y gwelwn ni fywyd ai holl gymhlethdodau yn eglurach nag yn unman arall? Mae mwyafrif y cerddi yn y gyfrol hon au gwreiddiau yn y tir ffrwythlon hwnnw, fel y gerdd i Nain Fron Olau lle mae gwylio dillad yn sychu ar y lein yn dwyn i gof hanes brwydr nain y bardd a dementia, ac yn cynrychioli cyfle iw hwyres bellach weld patrymau gwreiddiol y dillad fun poetsioi gilydd yn ystod y salwch creulon: Blows, yn gwmni ac yn gapel i gyd,/ a choban efo ogla straeon nos da/ yn dal i swatio ynddi. Ciplun cynnes o sgwrs rhwng ei gwr au mab hynaf, yn ei ail iaith, a gawn ni yn Pupur Coch: Mae wedi creu stori syn pefrio yn y llygaid teirblwydd. Nid fod y profiad o fagu plant yn fel i gyd. Mae'n hen thema, ond mae delweddau Casia yn y gerdd Dileu yn ffres ac yn cyfleur ymdeimlad o golli hunaniaeth oherwydd gofynion babi ifanc ir dim: Pan fydda in estyn bron yn lle beiro,/ yn gwthio coetsh yn lle reidio beic,/ yn trafod Calpol yn lle straeon nos Sadwrn. Ar y llaw arall mae ei hymateb cadarnhaol, er gwaethaf ei blinder, ir cwestiwn Tisio chwarae efo fi, Mam? yn chwerw felys oherwydd ei hymwybod o dreigl amser, tra bod teimlo ei hail blentyn yn cicio yn y groth drannoeth Etholiad Cyffredinol 2019 yn ysbrydoliaeth iddi hithau gicio yn erbyn y tresi gwleidyddol. Portread cynnil or hen ddywediad Drwy gicio a brathu mae cariad yn magu a gawn yn Brwnt lle mae tynerwch yn llenwir bylchau rhwng llinellau Llonydd, toc wedi ffrae rhwng dau, ai defnydd crefftus o ddelweddau: Rwyt tin dangos ffawydden i mi,/ ei mes, ei dail main,/ dy lais yn dawel/ fel yr egwyl rhwng penillion emyn. Mae mwy nag un gerdd yn son am effaith llesol ymwneud a byd natur, fel Nofio milltir a Cae Pawb, er enghraifft. Yn yr olaf maer bardd yn croesawur cyfle i drafod y diwrnod/ efo nwylo. Dotiais at y disgrifiad o swn y beic wrth iddi deithio ir rhandir: Y tsiaen yn udo, ar swn newid-ger-dolur-gwddw/yn rhygnu. A hithau wedi gweithio i elusennau fel Oxfam yn y gorffennol ac yn gweithio bellach ir Disaster Emergency Committee (DEC) daw cydymdeimlad y bardd ar rhai syn dioddef amgylchiadau byw dirdynnol mewn sawl rhan or byd ir golwg mewn nifer or cerddi eraill. Dyna Daeargryn, er enghraifft, syn cyferbynnu lluniau o drychineb Nepal a wel ar sgrin deledu mewn ystafell aros ysbyty ar darlun sgan oi phlentyn yn y groth yn fuan wedyn: Mae dagraun cosi fy nghlustiau/ wrth ir ddaear grynu. Trawiadol hefyd ywr cyferbyniad rhwng llawnder y Gorllewin a thlodi llwglyd y Trydydd Byd yn Cacen. Cerdd gomisiwn ar ffurf rhigwm ac yn llais plentyn ywr Ti teimladwy syn dathlu pen-blwydd y GIG yn 70 oed. Ac mor addas, o ystyried naws gyffredinol y gyfrol hon, mai Darnau bach, darlun mawr yw teitl cerdd gomisiwn arall syn dathlu canmlwyddiant sefydlu elusen Achub y Plant. Os bu neuadd fawr rhwng cyfyng furiau erioed, yn sicr mae iw chael yn helaeth rhwng cloriau cryno Eiliad ac Einioes. -- Annes Glynn @ www.gwales.com