Warenkorb
Kostenloser Versand
Unsere Operationen sind klimaneutral

Eco'r Gweld Cyril Jones

Eco'r Gweld von Cyril Jones

Eco'r Gweld Cyril Jones


7.50
Zustand - Sehr Gut
Nur noch 1

Zusammenfassung

An enchanting collection of poems, combining an appealing diversity of strict metre and vers libre pieces, in both joyful and serious modes. The collection is further enriched by the use of the dialect of Ceredigion, whence the poet hails.

Eco'r Gweld Zusammenfassung

Eco'r Gweld Cyril Jones

An enchanting collection of poems, combining an appealing diversity of strict metre and vers libre pieces, in both joyful and serious modes. The collection is further enriched by the use of the dialect of Ceredigion, whence the poet hails.

Eco'r Gweld Bewertungen

Ar wahan i'r gwaith a enillodd y Goron iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1992, ynghyd ag ambell gerdd mewn blodeugerddi ac yn Taliesin, ychydig iawn o waith Cyril Jones y gwyddwn i amdano. Dyma, felly, wneud iawn gyda chyhoeddi casgliad o'i waith. Mae Eco'r Gweld yn taro cywair perffaith - rhyw edrych drwy atgofion, drwy'r presennol hefyd ac yna ystyried yr adleisiau a'r adluniau sy'n mynnu procio'r dychymyg. Bardd crwydrol yw Cyril Jones, ac mae ei gerddi'n adlewyrchu ei gyfnodau yn ne Ceredigion, Maldwyn a'r de ddwyrain. A hyfryd ar y glust yw ei ddefnydd o dafodiaith bro ei blentyndod a'i ieuenctid. Yn 'Pytiau Pentrefol' gwelaf rannau ohonof fy hun gyda'r bardd yn ail-fyw'r yfed slei dan oed, ac mae'r gerdd yn fy atgoffa o deithiau gyda'r Clwb Ffermwyr Ifainc i wahanol bentrefi i gystadlu mewn eisteddfod a rali. Mae 'Mari' hefyd yn deffro hen ofergoelion am fenyw a ystyrid yn wrach neu'n wraig hysbys yn y fro. Yn dilyn yr adran gyffredinol, a leolir yn bennaf yn ardal Pennant, mae'r adran 'Cerddi'r Cyfannu' yn mynd a ni at gerddi buddugol y Goron yn 1992 ac i Ddylife a'i hanesion tywyll. A chawn gerdd am Eseciel Hughes a sefydlodd dreflan Gymreig Paddy's Run yn Ohio. Yn 'Cerddi Cyfochrog' cysylltir gair a llun gyda cherddi am weithiau gwahanol artistiaid, o Ifor Davies i Delyth Jones. Ac yna ceir un o'm hoff gerddi yn y casgliad, 'Cerdd ar y Cyd'. Cyfansoddwyd hon ar y cyd a disgyblion Ysgol Pennant, sef hen ysgol y bardd. Mae hi'n gerdd ryfeddol ei symlrwydd mewn iaith 'blentynnaidd' ac yn drist o arwyddocaol o wybod i'r ysgol gau ei drysau yn 2009. Yn 'Cerddi Cyfarch' cawn deyrngedau i rai o ser rygbi Cymru, cerdd i Eisteddfod Powys a chyflwyniadau hyfryd i ddwy wyres ac wyr. Ond yn fy marn i, mae'r bardd yn cyrraedd uchafbwynt yn yr adran gloi gyda'i atgofion tyner o'i dad. A daeth ei gerdd atgofus am Bear's Hill, cartref John Roderick Rees, a sleisen dda o ddoe yn ol i minnau. Dyma gasgliad o gerddi sy'n atgofus heb fod yn sentimental, yn agor drysau'r dychymyg a'r cof, ac yn orffenedig. Ceir y teimlad bod pob gair wedi ei bwyso a'i fesur yn llawn cyn hawlio'i le, fel dethol a didoli cerrig cyn eu gosod mewn wal. Mae honno'n wal sy'n corlannu pobol, mannau ac amserau ym mywyd bardd sydd yn amlwg yn ddyn gwar. -- Lyn Ebenezer @ www.gwales.com

Zusätzliche Informationen

GOR009532529
9781906396398
1906396396
Eco'r Gweld Cyril Jones
Gebraucht - Sehr Gut
Broschiert
Cyhoeddiadau Barddas
20120730
96
N/A
Die Abbildung des Buches dient nur Illustrationszwecken, die tatsächliche Bindung, das Cover und die Auflage können sich davon unterscheiden.
Dies ist ein gebrauchtes Buch. Es wurde schon einmal gelesen und weist von der früheren Nutzung Gebrauchsspuren auf. Wir gehen davon aus, dass es im Großen und Ganzen in einem sehr guten Zustand ist. Sollten Sie jedoch nicht vollständig zufrieden sein, setzen Sie sich bitte mit uns in Verbindung.