Cyfrol o un ar ddeg o straeon byrion yw Drychiolaethau gan Gwyn Thomas. Rhed thema amlwg drwyddynt - eu pwrpas yw dychryn a chodi ofn. Rhaid cyfaddef nad fy 'nghwpanaid o de' arferol fyddai darllen storiau arswyd. Mae gennyf atgofion byw o gael fy mherswadio i fynd i weld y ffilm Blair Witch Project a difaru'n ddigon cyflym ar ol hynny. Ond mae gweld rhywbeth annymunol ar y sgrin yn wahanol i'w ddarllen ar bapur . . . onid yw? Felly, dyma ddarllen stori arswyd Gymraeg am y tro cyntaf. Heblaw am un ohonynt, maent yn straeon gweddol gyfoes - y mwyafrif wedi'u lleoli mewn ardaloedd dychmygol yng ngogledd Cymru, gydag un mewn ty gwyliau yn Ffrainc ac un arall yn Norfolk yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cymeriadau nobl, dosbarth canol sydd ynddynt gan mwyaf yn gyfreithwyr, gweinidogion eglwys a phobl coleg. Dechreua'r awdur bob stori wrth roi disgrifiad manwl o'r ardal lle seilir yr hanes. Mae cryn dipyn o dyndra a chodi ofn yn dilyn. Yn ddiddorol, y gwragedd sy'n cael eu dychryn fwyaf, ac os ceir marwolaeth yn y stori, y dynion sy'n trengi. Ac wrth i'r cymeriadau weld a chlywed pob math o bethau annifyr, mae'n syndod nad yw'r gwragedd yn sgrechian mwy, e.e. wrth weld cysgod du, corniog yn mynd heibio'r ffenestr yng nghanol y nos. Dyna a wnaethwn i, o gael fy nychryn cymaint! Mae patrwm gweddol debyg i bob un o'r straeon, a hawdd fyddai ceisio proffwydo'r diweddglo cyn ei ddarllen. Ond na, ceir ambell dro annisgwyl iawn yng nghynffon y straeon, yn enwedig yn yr un olaf. Ysgrifennwyd y straeon mewn deialog lafar rymus a chyfoes. Nid wyf yn sicr iawn o ystyr rhai geiriau Seisnigedig Cymraeg, e.e. '[m]ynd yn batj i'r postyn giat'. Roedd yn anffodus hefyd gweld ambell wall sillafu, e.e. 'sysytem' ac 'ofergfoel'. Ond mwynheais yn fawr hiwmor ynganiad y Sais o 'Boncan Llys' fel 'Byncy Leis'. Darllenais y stori gyntaf cyn clwydo un nos, ond ni wnes y ffasiwn beth wedyn gan imi gael noson aflonydd iawn! Darllenais y gweddill yn ystod y dydd. Maent yn straeon hollol gredadwy, ac yn cynhyrfu. Cefais fy synnu 'mod i wedi mwynhau'r gyfrol cymaint. Mentrwch ei darllen - ond gair i gall, efallai nid yn hwyr y nos. -- Eirian Jones @ www.gwales.com