Mae yna gyfoeth o gyfrolau wedi ymddangos yn ddiweddar i gofio'r Rhyfel Byd Cyntaf - mwy yn Saesneg nag yn Gymraeg, wrth gwrs, ond prin y medrwn ni fel Cymry gwyno ar ein byd. Adrodd hanes John Williams, Brynsiencyn, a wna'r gyfrol hon gan Harri Parri a rhaid ei chroesawu'n gynnes iawn. Yn ei ddydd John Williams oedd un o dywysogion huotlaf y pulpud Cymreig. Mae'n debyg iddo gyrraedd pinacl ei yrfa pan aeth yn weinidog i Princes Road, Lerpwl. Pan briododd, ymddangosodd ei lun yn y Lady's Pictorial (roedd ei dad yng nghyfraith yn berchen ar 1,229 o adeiladau yn y ddinas ar lannau Mersi). Yn 52 mlwydd oed fe ymddeolodd i Lwyn Idris, Brynsiencyn, un o'r tai cyntaf ym Mon i'w oleuo a thrydan. Pan fu farw yn 1921 roedd yna 207 o geir yn ei angladd - record o fath yn yr oes honno, mae'n siwr. Bu ei lwyddiant fel pregethwr yn ysgubol, ond nid yw Harri Parri yn dewis canolbwyntio ar y cyfnod hwnnw yn ei fywyd. Rhoddir y prif sylw i flynyddoedd y Rhyfel Byd Cyntaf a gwaith John Williams fel Prif Gaplan y Fyddin Gymreig. Daliai i wisgo ei goler gron ond newidiodd ei siwt pregethwr am iwnifform milwr. Torsythai'n rhwysgfawr yn y wisg honno gan annog bechgyn ifanc gogledd Cymru i fynd i'r ffosydd. Fel y dywed pennill amdano: Pregethwr mawr Brynsiencyn Yn filwr wrth y groes Yn ailgroeshoelio'r Iesu Trwy dwyllo blodau'r oes. Dyn dadleuol, felly, un yr oedd y farn amdano mor rhanedig ym mlynyddoedd y Rhyfel Mawr ag ydyw heddiw. Yn y llyfr hwn mae Harri Parri'n defnyddio'r heddychwr John Puleston Jones fel gwrthbwynt iddo. Bydd rhai yn tybio bod yr awdur wedi bod yn rhy garedig wrth John Williams. Fe ddywed wrth gloi'r cofiant iddo ei chael yn amhosib datod y gweinidog a'r rhyfelwr oddi wrth ei gilydd. Y casgliad y deuthum i iddo wrth ddarllen y llyfr oedd bod rhywbeth yn ddiniwed am John Williams ac i Lloyd George fanteisio i'r eithaf ar hynny er mwyn poblogeiddio'r rhyfel yng ngogledd Cymru. Nid yw'n ymddangos, chwaith, i 'Frynsiencyn' edifarhau o gwbl am ei safiad. Oherwydd hynny fe fydd lladdfa'r Rhyfel Byd Cyntaf yn bwrw ei chysgod drosto am byth, fel y gwna tros wleidyddion, cadfridogion a gwyr cyhoeddus eraill y cyfnod a fu mor barod i anfon dynion ifanc ar draws y byd i faes y gad. Rhaid canmol diwyg y gyfrol. Mae yma lu o luniau, llythyrau a phosteri trawiadol. Fe welwn hefyd fod yr awdur wedi gwneud gwaith ymchwil trylwyr iawn, gan roi sylw nid yn unig i fywyd John Williams ei hun ond i gyflwr ehangach crefydd yng Nghymru yn y cyfnod hwn. Er y byddwn i wedi disgwyl i'r awdur fod yn fwy llawdrwm ei gondemniad o'r milwr-bregethwr, rhaid dweud i mi ddysgu llawer a chael blas rhyfeddol ar y gyfrol hon. -- Dafydd Morgan Lewis @ www.gwales.com