Mae gan Katie lawer i ddysgu, am Gymru a'r Gymraeg... -- Cyhoeddwr: Atebol
Mae Katie yn Saesnes, sy'n cwrdd a Chymro yn Sbaen; o ganlyniad i gorwynt o garwriaeth, maen nhw'n priodi ac yn paratoi at ddechrau bywyd gyda'i gilydd yng Nghymru, yn ei bentref Cymraeg ef, gyda'i deulu Cymraeg. Nid yw Katie yn siarad gair o Gymraeg, nac yn gwybod dim byd am hanes na diwylliant y Gymru Gymraeg chwaith. Mae'r nofel yn dilyn ei hymdrechion i gynefino a'i bywyd newydd, mewn ffordd ddoniol a difyr iawn, ond gyda mewnwelediad a dyfnder syfrdanol, o ystyried hyd ac ysgafnder y stori. Mae'r awdures, Sarah Reynolds, wedi priodi siaradwr Cymraeg, symud i Gymru a dysgu Cymraeg, felly mae hi'n ysgrifennu am sefyllfaoedd sydd yn seiliedig ar brofiadau personol; mae hynny'n amlwg ac mae'n cyfoethogi'r stori. Mae'r iaith yn glir ac yn eithaf sgyrsiol, sy'n gwneud y llyfr yn bleser i'w ddarllen. Gyda geirfa ddefnyddiol ar waelod pob tudalen ac adran eirfa yng nghefn y llyfr, does dim rhaid chwilio am eiriau yn y geiriadur yn aml, sydd yn helpu'r stori i lifo. Nid wyf yn berson sy'n chwerthin yn hawdd wrth ddarllen llyfrau; efallai fy mod i'n gwenu a mwynhau, ond gyda'r nofel hon roeddwn yn chwerthin yn aml, ac yn galw ar fy mhartner er mwyn darllen rhannau iddo fe. Roeddwn yn gallu uniaethu a'r prif gymeriad, fel Saesnes sy wedi symud i Gymru a dechrau perthynas gyda Chymro Cymraeg wrth ddysgu Cymraeg. Roedd nifer o sefyllfaoedd yn y llyfr roeddwn yn gallu gweld fy hunan ynddyn nhw! Ond o dan yr hiwmor mae rhywbeth arall. Mae'r ysgrifennu'n dangos parch a chariad at y wlad, ei phobl a'i hiaith, ac rwyf yn siwr y byddaf yn dyfynnu nifer o rannau o'r llyfr hwn yn y dyfodol. Mae'r awdures yn feddylgar wrth roi sylw i'r agweddau amrywiol sydd gan bobl tuag at yr iaith. Ar yr un pryd, mae hi'n disgrifio'n dawel ond effeithiol sut deimlad yw syrthio mewn cariad a gwlad newydd, iaith newydd, cymuned newydd a bywyd newydd mewn ffordd y gallwn uniaethu a hi yn llwyr. Mae hwn yn llyfr difyr dros ben ar bob lefel. -- Sarah Graham @ www.gwales.com