Warenkorb
Kostenloser Versand
Unsere Operationen sind klimaneutral

Storm, Y William Shakespeare

Storm, Y von William Shakespeare

Storm, Y William Shakespeare


10.00
Zustand - Sehr Gut
Nur noch 1

Zusammenfassung

A translation of William Shakespeare's The Tempest, published to coincide with a production of the play by Theatr Genedlaethol Cymru at the 2012 National Eisteddfod in the Vale of Glamorgan.

Storm, Y Zusammenfassung

Storm, Y William Shakespeare

A translation of William Shakespeare's The Tempest, published to coincide with a production of the play by Theatr Genedlaethol Cymru at the 2012 National Eisteddfod in the Vale of Glamorgan.

Storm, Y Bewertungen

Mae 'Y Storm' yn gyfieithiad newydd o glasur Shakespeare. Dewisiwyd cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o'r ddrama hon (a berfformir mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru) i fod yn Rhan o Wyl Shakespeare y Byd (World Shakespeare Festival), sy'n un o Ddigwyddiadau'r Olympiad Diwylliannol eleni.
Am fwy o fanylion am y ddrama, gweler gwefan Theatr Genedlaethol Cymru: http://www.theatr.com/cy/newyddion.
Ar ynys anghysbell, mae storm yn corddi a chyfle o'r diwedd i frawd ddial ar frawd. Mae Ariel yn barod i dalu'r pwyth yn ol gyda chorwynt a dwr a than. Ar for tymhestlog, gweddia Antonio am ei einioes, wrth i Prospero wylio'r cyfan o'r tir.
Mae chwerthin ac ofn, hunllef a dryswch yn arwain creaduriaid truenus o orffennol Prospero ar ffair wyllt o gwmpas yr ynys wrth iddo wneud yn siwr, trwy hud a lledrith a phwer ei holl enaid, fod y wers wedi'i dysgu.
The Tempest oedd y ddrama olaf i Shakespeare ei chyfansoddi. Cyfleir holl gynildeb a dyfeisgarwch y clasur hwn yn addasiad newydd Gwyneth Lewis ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Mae yna draddodiad hir o gyfieithu gweithiau mawr yr iaith Saesneg i'r Gymraeg. Yn ol rhai, proses sydd o reidrwydd yn colli swyn a rhai o haenau ystyr y testun gwreiddiol yw cyfieithu llenyddiaeth, ond mae'r cyfieithiadau mwyaf crefftus yn rhai sy'n medru cyfoethogi ystyr gwaith. Mae gan gyfieithydd y grym i ailddychmygu gwaith llenyddol, gan ei agor i holl ddylanwadau cymdeithasol a diwylliannol iaith arall. Mae Gwyneth Lewis yn llenor sy'n hollol ymwybodol o'r broses hon, fel un sydd wedi ymdrin a'i dwyieithrwydd yn greadigol ar hyd ei gyrfa lenyddol, ac roedd penderfyniad Theatr Genedlaethol Cymru i'w chomisiynu i greu cyfieithiad newydd o The Tempest gan William Shakespeare yn un ysbrydoledig. Does dim syndod, felly, mai 'addasiad' yw Y Storm yn hytrach na 'chyfieithiad'. Yn ei ragarweiniad difyr i'r gyfrol, mae cyfarwyddwr artistig y Theatr Genedlaethol, Arwel Gruffudd, yn ategu'r pwynt gan ofyn 'onid addasiad, mewn gwirionedd, yw pob cyfieithiad o destun celfyddydol?' Camp fwyaf yr addasiad hwn yw'r modd y mae Gwyneth Lewis yn defnyddio iaith fodern ddealladwy i ddehongli'r ddrama brydferth a grymus hon o'r newydd ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, gan lynu at galon farddonol y gwaith Shakespearaidd gyda'i rythmau mydryddol a'i ymadroddion trosiadol yr un pryd. Plethir ieithwedd lafar a thafodieithol gydag ymadroddion sy'n cyfleu naws fwy urddasol barddoniaeth yr areithiau. Mae ymdeimlad naturiol bardd at fydr hefyd yn amlwg yn y gwaith. Dyma sut y cyfieithodd Gwyneth Lewis gan Ariel yn yr act gyntaf: Yn y dyfnder mae dy dad, Cwrel yw ei esgyrn o; Dyna berl lle bu ei lygad, Mae pob elfen sydd yn gwywo Yn trawsnewid fel y mor Nid trengi ond troi'n drysor. O edrych ar y llinellau gwreiddiol mae arddull ac ymagwedd yr awdur at y dasg o gyfieithu testun llenyddol yn amlwg. Full fathom five thy father lies; Of his bones are coral made; Those are pearls that were his eyes: Nothing of him that doth fade, But doth suffer a sea-change Into something rich and strange. Mae'n cadw'n driw i ystyr geiriau Shakespeare heb gyfaddawdu ar yr angen i greu gwaith sy'n sefyll ar ei draed ei hunan fel gwaith llenyddol Cymraeg. -- Sioned Williams @ www.gwales.com

Zusätzliche Informationen

GOR013402864
9781906396497
1906396493
Storm, Y William Shakespeare
Gebraucht - Sehr Gut
Broschiert
Cyhoeddiadau Barddas
20120731
80
N/A
Die Abbildung des Buches dient nur Illustrationszwecken, die tatsächliche Bindung, das Cover und die Auflage können sich davon unterscheiden.
Dies ist ein gebrauchtes Buch. Es wurde schon einmal gelesen und weist von der früheren Nutzung Gebrauchsspuren auf. Wir gehen davon aus, dass es im Großen und Ganzen in einem sehr guten Zustand ist. Sollten Sie jedoch nicht vollständig zufrieden sein, setzen Sie sich bitte mit uns in Verbindung.