Er bod Kate Roberts, Syr T. H. Parry-Williams a D. J. Williams yn meddwl y byd o Rosgadfan, Rhyd-ddu a Rhydcymerau, mewn alltudiaeth wirfoddol yn Ninbych, Aberystwyth ac Abergwaun yr arhosodd y tri. Brogarwr o fath gwahanol yw Aled Lewis Evans. Ei ddeunydd ef ywr bobol ar llefydd yr ymgartrefodd yn eu plith yn Wrecsam ar cyffiniau. Troi bywydau a digwyddiadau bob dydd y gymdeithas honno'n gerddi yw ei gamp. Yn aml digwyddiad digon distadl ywr man cychwyn. Ond gwel y bardd arwyddocad dyfnach ac ehangach mewn manion betheuach or fath. Mae plentyn difreintiedig a oedd wedi cnoi ei ewinedd ir byw yn ymdrechun lew i blicio oren. Dysgodd yn ifanc `sut i grafur croen caletaf oddi ar y suraf o brofiadau/ a chanfod gronyn o felyster/ oddi mewn. Dro arall, ar bardd yn gyrru ar un o briffyrdd Richard Brunstrom, y Cymreigiwr hwnnw o gyn-prif gwnstabl, mae arwydd matrix yn rhybuddio bod y draffordd ar gau liw nos. Maen dymor y Nadolig. Mae gweld y ddau air liw nos mewn ysgrifen electronaidd ar yr arwydd yn peri iddo feddwl yn syth am y bugeiliaid hynny a wyliai eu praidd liw nos. Dyma enghraifft deg or modd, heb fod yn stroclyd na gorymdrechgar, y mae Aled yn cael ei ysgogi i ganu. Mae cydymdeimlad a dyneiddiwch Aled Lewis Evans yn amlwg yn y cerddi hynny lle mae on trafod ei brofiadau fel athro - ac athro cyflenwi - yn ysgolion cyfun y ffin. Dan amgylchiadau arferol byddai bratiaith y disgyblion, fel yi dyfynnir mewn nifer o gerddi, yn codi gwrychyn llawer ohonom. Ond mae gallur bardd i uniaethu efor bobol ifanc, i gymryd tynnu ei goes, i weld eu cryfderau, yn peri i ninnau edmygur hyn a gyflawnwyd ganddynt yn hytrach na dirmygu eu diffygion. Dan law llai celfydd nag un Aled gallair cerddi am ei ddisgyblion fod yn nawddoglyd neun siwgwraidd o neis-neis. Ond osgoir pob arlliw o hynny gan y diffuantrwydd syn pefrio drwyr cerddi. Cofiwch, mae hyd yn oed Aled yn gallu troi'r tu min weithiau. Silly bitch ydir fam syn rhwystro ei phlentyn rhag benthyca llyfr Cymraeg o lyfrgell Wrecsam. Ac nid ywn ddall ychwaith i agweddau arteithiol eisteddfodau cylch yr Urdd - beirniaid dieneiniad a threfniadaeth wantan! Cofiaf yn dda'r gri hon gan riant eisteddfodol: `Doedd nam rhagbrofion yn y diwedd/ felly dan ni di bod yma am oriau/ a doedd nam paned iw gael yn unlle. Ac mae ei gerdd ysgytwol Anhysbys yn Ardudwy yn brawf bod Aled yn gwybod yn iawn nad Wrecsam ywr unig dalcen caled syn wynebur Gymraeg erbyn hyn. -- Vaughan Hughes @ www.gwales.com