Cynhelir lansiad rhithiol yng nghwmni Rhys Dafis a Gerallt Pennant ar 25ain o Fawrth. Cysylltwch gyda
[email protected] am fwy o wybodaeth. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Teitl y bennod olaf yn y gyfrol hon o gerddi yw Y Bod Dynol a Natur. Ond mewn gwirionedd dyma yw hanfod y casgliad cyfan. Drwy lygaid, a thrwy eiriau rhyw hanner cant o feirdd gwahanol cawn flas ar yr amryfal ffyrdd y mae pobl wedi gweld a chanfod y byd ou cwmpas dros y blynyddoedd; cawn rannu hefyd rai or meddyliau ar emosiynau sydd wedi eu sbarduno drwy ddod i gysylltiad, mewn rhyw ffordd, a natur. Wrth fynd ati i greu casgliad o gerddi Cymreig eu hiaith au naws syn ymdrin a byd natur roedd y golygydd yn awyddus i sicrhau amrywiaeth a fyddain apelio at bob oedran. Roedd yn fwriad hefyd i adlewyrchu agweddau amrywiol pobl tuag at ein hamgylchedd o ryfeddod i dristwch, ac o edmygedd i ddifaterwch yn ogystal a phriodweddaur byd naturiol sydd mor aml yn ddrych arnom ni ein hunain. Mae cyfraniadau newydd gan feirdd cyfoes yn ychwanegun fawr at y casgliad, nid yn unig o ran testunaur cerddi, gyda rhywogaethau mwy annisgwyl fel gwymon, morloi a phryr lludw yn cael sylw, ond hefyd o ran natur y canu ar parodrwydd i fynegi ystod o deimladau personol a gwleidyddol am ein perthynas gydan gilydd a hefyd gydar amgylchedd syn rhan on bywydau. Dewis anodd, a phersonol iawn yw creu categoriau ar gyfer casgliad fel hwn. Maer gyfrol yn dechrau gyda grymoedd a ffenomenau mawr y bydysawd; cawn ein cyflwyno wedyn i sypiau o gerddi sydd wedi eu rhannu fesul cynefin neu yn ol gwahanol fathau o rywogaethau, cyn cyrraedd y bennod derfynol ai phwyslais bwriadol ar bobl au perthynas ar ddaear. Serch hynny, gallai rhywun fynd ati i werthfawrogir cerddi mewn ffyrdd eraill. Darllen a dehonglir cerddi o safbwynt yr hyn yr oedd y beirdd yn ceisio ei fynegi ai gyfleu roddodd y boddhad mwyaf i mi. Mae nifer or cerddi yn llwyr ddisgrifiadol ac mae rhywun yn rhyfeddu at ddawn beirdd i greu naws lle a chreu cyffebyliaethau trawiadol syn gallu gwneud i chi feddwl mewn ffyrdd newydd am bethau cyfarwydd. Mewn cerddi eraill fe sylweddolwn fod y profiadau o weld a chyffwrdd elfennau gwahanol or amgylchedd yn esgor ar deimladau a myfyrdodau pellach am ein hagweddau at fywyd gwyllt, am gymhlethdodau perthynas rhwng pobl, am ein lle ni ar y blaned hon ar ffordd yr ydym yn ei thrin. Ac ambell waith hefyd maer cerddin hollol drosiadol, fel yn achos cerdd Huw Erith am fewnlifiad y crancod coesgoch. Mae diwyg y gyfrol mor amryliw ar geiriau, gyda ffotograff yn hebrwng pob cerdd ar tudalennau, yn eu cyfanrwydd, yn bob lliw dan haul. Mae maint a theimlad y llyfr yn braf, o ran ei ddal ai ddarllen, ac maen siwr y gall pawb gytuno, ar ol pori ymhlith y cerddi, fod y casgliad yn tanlinellur berthynas annatod rhwng pobl a byd natur, ac yn dangos hefyd fod yna ryfeddodau newydd iw gweld au profi bob dydd, dim ond i ni ddewis sylwi arnyn nhw. -- Elinor Gwynn @ www.gwales.com