Ni ganwn Gymraeg er gwaethar rhai beilchion, Er cymaint eu brad a thwyll y cyllyll hirion; Er cymaint yw hunan a dichell y Saeson, Ni ganwn iaith ein mam er gwaetha ynfydion. Dyletswydd y bardd yw edrych dros ei ysgwydd ar y dyddiau hirfelyn hynny pan oedd Bess yn teyrnasu. Yn nyddiau Elizabeth I roedd parch at gyd-ddyn, ei gefndir, ei iaith, ai argyhoeddiadau, ac ni chlywyd son erioed am falchder na rhodres tebyg ir hyn a welid ymhlith Cymry Llundain ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechraur bedwaredd ar bymtheg. Dyma un o themau cyffredin y cyfnod, ac fe lyncodd Jac Glan-y-gors yr abwyd. Un o faledwyr poblogaidd Cymru oedd John Jones, ac er bod ganddo enw digon diniwed, ei brif waddol i lenyddiaeth Gymraeg fu baledi dychanol, yn ymosod ar yr hyn a ystyriain rhagrith y bobl yr oedd yn byw yn eu plith. Erys apel ambell faled yn hwy nar lleill. Pan briododd Jac Saesnes gefnog a phrynu tafarn y Kings Head ar ei harian, gwahoddodd y Gwyneddigion ar Cymreigyddion yno i gynnal eu cyfarfodydd a chanodd ei faledi iw diddori. Ei enwocaf ywr un am gymeriad ffuantus or enw Dic Sion Dafydd, Cymro Cymraeg a adawodd ei fro enedigol, llyncu popeth a oedd gan Lundain iw gynnig iddo, a dychwelyd i Gymru i swancio. Bessie o Lansantffraid ywr fenyw syn carior un baich o bechod. Hudwyd Jac Glan-y-gors i Lundain i wella ei fyd ym mlwyddyn y Chwyldro Ffrengig, 1789, ond bun rhaid iddo ddianc adref iw hen fro, i eithafoedd y mynyddoedd, ys dywedodd, yn 1798 ar gyfrif ei syniadaeth wrthsefydliadol. Cyhoeddodd ddau bamffledyn, sef Seren Tan Gwmmwl (1795) a Toriad y Dydd (1797) lle y mynegodd farn debyg i eiddo Tom Paine ar nifer o bynciau, yn eu plith hawliau dynol, y frenhiniaeth, ac Eglwys Loegr. Ond ar fydryddiaeth John Jones y canolbwyntir yn y gyfrol hon. Bron ganrif wedi i Richard Griffith Carneddog gyhoeddi cerddi Glan-y-gors yng Nghyfres y Fil (1905) ceir yn 2003 fersiwn llawnach or un gamp. Bellach mae rhyddid i gyhoeddir cerddin llawn, yn hytrach na phenillion dethol yn unig o ambell gerdd a ystyrid, ganrif yn ol, yn fasweddus. Cynigir yr hen ffefrynnau yn ogystal a rhai newydd dros ddeg ar hugain i gyd ac eisoes clywais faledwr meistraidd yn canu or gyfrol, ar yr alawon a gymeradwyir yma (a diolch i Phyllis Kinney am y gymwynas honno). Efallai na fydd darllenwyr y gyfrol yn lleng, ond erys swyn yr hen faledi, ac erys angen am grynswth eu neges, hyd y dydd hwn. -- Rhiannon Ifans @ www.gwales.com