Warenkorb
Kostenloser Versand
Unsere Operationen sind klimaneutral

Cyfres Amdani: Trwy'r Ffenestri Frank Brennan

Cyfres Amdani: Trwy'r Ffenestri von Frank Brennan

Cyfres Amdani: Trwy'r Ffenestri Frank Brennan


€7.39
Zustand - Sehr Gut
Nur noch 1

Zusammenfassung

A book for Welsh learners, Advanced Level. A collection of diverse short stories, being a Welsh adaption of Windows of the Mind by Frank Brennan. REPRINT FIRST PUBLISHED 2018.

Cyfres Amdani: Trwy'r Ffenestri Zusammenfassung

Cyfres Amdani: Trwy'r Ffenestri Frank Brennan

A book for Welsh learners, Advanced Level. A collection of diverse short stories, being a Welsh adaption of Windows of the Mind by Frank Brennan. REPRINT FIRST PUBLISHED 2018.

Cyfres Amdani: Trwy'r Ffenestri Bewertungen

Beth sydd gennym yn Trwy'r Ffenestri ydy casgliad diddorol o straeon byrion, pob un ohonyn nhw'n cynnig rhywbeth gwahanol i'r darllenydd. Yr uchafbwynt ynddynt ydy 'Agor Drysau', sef stori fer sydd yn dweud hanes menyw ddall ac mae hi wedi cael y cyfle i gael llawdriniaeth er mwyn gweld y byd mae hi wedi bod yn ei golli erioed. Mae'r stori hon yn sefyll allan oddi wrth y gweddill ac fe'm cefais fy hun yn gobeithio y byddai Frank Brennan yn ysgrifennu fersiwn hirach o'r stori hon. Mae gweddill y straeon yn mynd heibio yn eithaf cyflym ac yn glod i'r gwaith addasu gan Manon Steffan Ros, sydd wedi gwneud gwaith ardderchog trwy wneud i chi deimlo fod y straeon yn digwydd mewn amgylchedd Cymraeg a Chymreig. Mae'r ddeialog yn gredadwy ac yn teimlo'n realistig. Mae'r tim ysgrifennu yn gweithio yn dda gyda'i gilydd, ac mae Manon, sydd yn awdur gwych ei hunan, yn gwneud gwaith hawdd o addasu geiriau Brennan a dod a'r cyfan yn fyw, a hynny efo chwistrelliad bach o'i phersonoliaeth ei hun. Yn fy marn i, daw uchafbwynt arall yn y stori olaf, 'Cyffyrddiad Ysgafn', sef stori rybuddiol am y peryglon o ddilyn y dorf pan ddylech chi wybod yn well. Dyma stori arall roeddech yn gobeithio y byddai Brennan yn ei thrawsnewid yn stori hir. Rydw i'n edrych ar gasgliadau straeon byr fel record hir, neu albwm gerddorol. Beth fyddech yn ei gael hefo Trwy'r Ffenestri ydy casgliad o straeon diddorol, fel traciau neu ganeuon unigol, a hefyd byddech yn cael uchafbwyntiau fel 'Agor Drysau', 'Cyffyrddiad Ysgafn', a'r stori gyntaf, 'Fel Hen Win', un sydd yn edrych ar y cysylltiadau sydd ynghlwm wrth gytundeb busnes. Mae'r llyfr hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd yn gallu darllen ar lefel uwch yn gyfforddus, ac efallai'r rheiny sydd eisiau datblygu eu sgiliau darllen. Doeddwn i ddim yn gweld y llyfr yn anodd i'w ddarllen o gwbl, ac ar gyfer y geiriau newydd roedd yr eirfa ar bob tudalen yn ddefnyddiol iawn. Os dych chi eisiau llyfr y gallwch droi ato am hanner awr yn ddidrafferth - dyma'r llyfr i chi. Byddwn i'n argymell y llyfr hwn i unrhyw un sydd eisiau rhywbeth ychydig bach yn wahanol i bopeth arall sydd ar gael. -- Nicky Roberts @ www.gwales.com

Zusätzliche Informationen

GOR011000571
9781912261437
191226143X
Cyfres Amdani: Trwy'r Ffenestri Frank Brennan
Gebraucht - Sehr Gut
Broschiert
Atebol Cyfyngedig
2022-03-07
108
N/A
Die Abbildung des Buches dient nur Illustrationszwecken, die tatsächliche Bindung, das Cover und die Auflage können sich davon unterscheiden.
Dies ist ein gebrauchtes Buch. Es wurde schon einmal gelesen und weist von der früheren Nutzung Gebrauchsspuren auf. Wir gehen davon aus, dass es im Großen und Ganzen in einem sehr guten Zustand ist. Sollten Sie jedoch nicht vollständig zufrieden sein, setzen Sie sich bitte mit uns in Verbindung.