Maer nofel hon yn ticio sawl bocs: 1.) Maen berffaith ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad, ac maer paragraff cyntaf mor syml: Elsa Bowen dw i. Ditectif preifat dw i. Dw in byw yng Nghaernarfon. Bydd yn rhoi hyder ir dysgwr or cychwyn cyntaf. Maer ail baragraff yn defnyddio roedd ac mi wnes ac maer patrymau yn aros yn gyson syml at y diwedd. Ond maer awdur yn diwtor Cymraeg hynod brofiadol sydd wedi dysgur iaith ei hunan, flynyddoedd yn ol, felly yn ddewis perffaith. 2.) Nofel dditectif ydi hi rhywbeth prin yn y Gymraeg. 3.) Mae llawer or stori yn digwydd mewn siop lyfrau! Syniad gwych syn gweithion dda. 4.) Mae hi wedi ei lleoli yn y gogledd Caernarfon, i fod yn fanwl gywir, ac mae llyfrau ar gyfer dysgwyr sydd wedi eu lleoli yn y gogledd, efo iaith ogleddol, wedi bod yn brin iawn tan yn ddiweddar. 5.) Nid addasiad mohoni, ond nofel wreiddiol o ben a phastwn Pegi, syn ei gwneud yn llawer mwy diddorol a pherthnasol. 6.) Merch gref ywr prif gymeriad ar dihiryn. 7.) Maen perthyn i gyfres, sef Cyfres Amdani. Maer llyfrau i gyd wedi eu harchwilion ofalus gan yr un criw, felly bydd y patrymau iaith ar eirfa yn gyson. Hefyd, maen nhw wedi eu graddoli ar bedair lefel, a dymar lefel gyntaf, felly bydd y dysgwyr yn gallu symud ymlaen gam wrth gam a thrwy hynny yn gweld y cynnydd yn eu gallu i ddarllen a deall Cymraeg. 8.) Mae ynddi luniau rhai du a gwyn gan Hywel Griffith, yn arddull hen lyfrau ditectif. Maen nhwn sicr yn ychwanegu at y testun ac yn help i gynnal y naws noir. 9.) Maer eirfa ar waelod pob tudalen ond hefyd mewn bold yn y stori, ac eto wedyn mewn rhestr yn ol y wyddor yn y cefn. Defnyddiol iawn. A be am y stori ei hun? Maen gweithio: ron in hoffi Elsa, y prif gymeriad yn arw. Fel pob ditectif da, dydi hi ddim yn berffaith. O ran y plot, ron i eisiau gwybod be oedd yn y llyfrau roedd y gangsters yn dod iw casglu or siop, ond wna i ddim difethar stori i chi fan hyn. Ac ron in arbennig o hoff or diweddglo, syn awgrymun gynnil bod mwy o helyntion Elsi i ddod. Ond dydi hi byth yn glawio yng Nghaernarfon go iawn, wrth gwrs! -- Bethan Gwanas @ www.gwales.com