Warenkorb
Kostenloser Versand
Unsere Operationen sind klimaneutral

Paned o De yn Georgia Wendy Jones

Paned o De yn Georgia von Wendy Jones

Paned o De yn Georgia Wendy Jones


€13.99
Zustand - Wie Neu
Nur noch 1

Zusammenfassung

A quirky travel book that gives us a taste of life in Russia at a time of change, and also raises interesting questions about identity and culture. Contains a number of striking photos by Kristina Banholzer.

Paned o De yn Georgia Zusammenfassung

Paned o De yn Georgia Wendy Jones

A quirky travel book that gives us a taste of life in Russia at a time of change, and also raises interesting questions about identity and culture. Contains a number of striking photos by Kristina Banholzer.

Paned o De yn Georgia Bewertungen

Mynd a ni yn ol i Rwsia'r Undeb Sofietaidd y mae Wendy Jones yn y gyfrol hon, gan ddilyn ei hanes hi'n ddynes ifanc yn teithio y tu ol i'r Llen Haearn. Ar y tren traws-Siberia i ddechrau, cyn treulio cyfnod yn Mosgfa a Leningrad yn astudio'r iaith, a hynny yng nghanol yr 1980au. Mae'r byd a ddisgrifir ganddi'n un dieithr - bywyd myfyrwraig dramor ym mherfeddion Rwsia, yn troi ymysg myfyrwyr eraill o'r sffer dylanwad Sofietaidd: Mali, Afghanistan, Vietnam a Chiwba; yn crwydro'r Sgwar Coch, Ircwtsc, Tbilisi, yn siopa yn y Llysgenhadaeth Brydeinig ac yn crwydro'r coedwigoedd bedw. Yr hyn sy'n rhoi unoliaeth i'r gyfrol amrywiol hon yw'r baned o de hollbresennol. Yn ystrydeb o'r cartrefol a'r cyfarwydd, yma mae'n gyfrwng i archwilio'r diwylliant dieithr, a hynny gan drosgynnu'r personol a'r gwleidyddol. Mae'r baned o de yn arwydd o'r newid cymdeithasol yn Rwsia, pan gipiwyd y moethau fel y samovar a'r podstakannik o ddwylo'r bonedd, a'u gwneud yn hygyrch i'r werin ar ol y chwyldro Bolshefig. Y mae'r te ei hun, te Georgia, yn gynnyrch polisi economaidd Rwsia'r cyfnod Sofietaidd. Ac yna, pan ddychwel Wendy eto, wedi cwymp y Wal a dyfodiad cyfalafiaeth a'r farchnad rydd, mae te Georgia wedi diflannu oddi ar y silffoedd, a daw yn un o greiriau oes flaenorol. Ond eilbeth yw arwyddocad geo-wleidyddol y te o'i gymharu a'i arwyddocad fel defod ddynol - y sgyrsiau sy'n cael eu cynnal dros y baned, y bobl mae'r awdur yn dod i'w nabod, pob un a'i ffordd a'i arddull neilltuol ei hunan o baratoi ac yfed y ddiod gynnes. Nid rhyw lais awdurdodol yn traethu a bwrw barn a geir yma chwaith. Mae'r awdur yn ansicr weithiau, yn ffaeledig. Wedi deg mlynedd ar hugain mae bylchau yn y cof, tra bod eiliadau eraill wedi eu serio'n glir. Yn yr un modd, mae ei sylwebaeth ar yr Undeb Sofietaidd yn ddynol hefyd. Nid yw'n rhamantu'r gyfundrefn Sofietaidd, ac mae'n ddarlun byw, dynol o bobl yn ymdopi a thlodi a chyni economaidd, o fewn gwladwriaeth ormesol. Mae ciwiau bwyd a charchardai didrugaredd Siberia yn gefnlen i'r cyfan, ond mae'r gymdeithas a ddarlunnir yn un gynnes, groesawgar, hael. Dyma gyfrol eang ei chyfeiriadaeth gan awdur sy'n nabod ei thestun yn drylwyr, ac un y mae'n bleser treulio ychydig oriau yn ei chwmni. -- Elan Grug Muse @ www.gwales.com

Zusätzliche Informationen

GOR013310314
9781912173419
1912173417
Paned o De yn Georgia Wendy Jones
Gebraucht - Wie Neu
Broschiert
Gwasg y Bwthyn Cyf
20210223
160
N/A
Die Abbildung des Buches dient nur Illustrationszwecken, die tatsächliche Bindung, das Cover und die Auflage können sich davon unterscheiden.
Das Buch wurde gelesen, ist aber in gutem Zustand. Alle Seiten sind intakt, der Einband ist unversehrt. Leichte Gebrauchsspuren am Buchrücken. Das Buch wurde gelesen, sieht jedoch noch wie neu aus. Der Bucheinband weist keine sichtbaren Gebrauchsspuren auf. Gegebenenfalls ist auch ein Schutzumschlag verfügbar. Keine fehlenden oder beschädigten Seiten, keine Risse, eventuell minimale Knicke, keine unterstrichenen oder markierten Textstellen, keine beschrifteten Ränder.