Cart
Free Shipping in Australia
Proud to be B-Corp

Stori'r Gofod Catherine Barr

Stori'r Gofod By Catherine Barr

Stori'r Gofod by Catherine Barr


$22.49
Condition - Very Good
Only 1 left

Summary

Cyn y Glec Fawr doedd DIM BYD O GWBL. Dim galaethau, dim ser, dim planedau a dim bywyd. Dim amser, dim gofod, dim golau a dim swn. Yna'n sydyn, 13.8 biliwn o flynyddoedd yn ol, DECHREUODD POPETH... Mae'r stori hon am ein bydysawd wedi'i darlunio'n hyfryd ar gyfer plant iau. Addasiad Cymraeg Sian Lewis o The Story of...

Stori'r Gofod Summary

Stori'r Gofod by Catherine Barr

Cyn y Glec Fawr doedd DIM BYD O GWBL. Dim galaethau, dim ser, dim planedau a dim bywyd. Dim amser, dim gofod, dim golau a dim swn. Yna'n sydyn, 13.8 biliwn o flynyddoedd yn ol, DECHREUODD POPETH... Mae'r stori hon am ein bydysawd wedi'i darlunio'n hyfryd ar gyfer plant iau. Addasiad Cymraeg Sian Lewis o The Story of Space.

Stori'r Gofod Reviews

O'r diwedd, dyma lyfr yn y Gymraeg i ateb y cwestiwn 'O ble mae pobl yn dod?' sy'n esbonio theori esblygiad. Mae taer angen llyfrau ffeithiol fel hyn i annog gwyddonwyr bach Cymraeg y dyfodol ac i feithrin meddyliau chwilfrydig, heb son am ehangu eu geirfa yn y Gymraeg. Mae pynciau digon cymhleth yn cael eu trafod yma, megis datblygiad bywyd o'r celloedd cyntaf ac esblygiad dyn, ond mae'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n ddealladwy i blant wrth iddynt, o bosibl, gael eu cyflwyno i'r cysyniadau hyn am y tro cyntaf. Sonnir am y tameidiau bychain a roes fywyd i'r byd a'r celloedd hyn yn troi'n greaduriaid o bob math. Cawn hanes oes y deinosoriaid ac esblygiad mamaliaid a phobl, a chyn bwysiced a dim cawn y cyd-destun heddiw wrth i bobl lenwi'r blaned a difetha lleoedd gwyllt. Yn y llyfr ceir darluniau syml a swynol sy'n llenwi'r tudalennau, ac nid yn unig maent yn ychwanegu cryn dipyn o liw at y testun, maent hefyd yn ddefnyddiol iawn wrth esbonio ac esgor ar drafodaeth bellach. Mae llinell amser (e.e.'65 miliwn o flynyddoedd yn ol') ar bob tudalen, sy'n wych o beth gan fod llinell amser yn gysyniad anodd i blant ond mae'n bwysig iawn dechrau trafod pa mor hir y mae wedi ei gymryd i fywyd ar y ddaear (a dyn) esblygu. Gellid dadlau fod y 'llinell amser' sydd ar dudalen yr eirfa yng nghefn y llyfr yn gamarweiniol gan nad yw pob cyfnod mewn gwirionedd yn 'gyfartal' a dylid fod wedi rhannu hyd y llinell ar y dudalen yn fwy cymesur, h.y. byddai 'heddiw' a'r miliwn o flynyddoedd diwethaf yn llawer, llawer llai. Mae iaith yr addasiad yn fywiog a chyfoethog, er bod dewis defnyddio berfau amhersonol (e.e. 'cymylwyd y moroedd') a berfau cryno anghyfarwydd (e.e. 'trawodd') yn destun trafod. Mae'r eirfa/geiriau ar ddiwedd y llyfr yn hynod ddefnyddiol, ond trueni nad oedd 'nwy' hefyd wedi'i gynnwys gan y gall hwnnw o bosibl beri problem esbonio i ambell riant. -- Angharad Williams @ www.gwales.com

Additional information

GOR012653353
9781849673990
1849673993
Stori'r Gofod by Catherine Barr
Used - Very Good
Paperback
Rily Publications Ltd
20180118
40
N/A
Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.
This is a used book - there is no escaping the fact it has been read by someone else and it will show signs of wear and previous use. Overall we expect it to be in very good condition, but if you are not entirely satisfied please get in touch with us

Customer Reviews - Stori'r Gofod