Bydd yr hynafgwyr yn ein plith yn cofio rhaglen or enw Ymryson y Beirdd ar y radio yn y 1940au ar 50au, gyda Sam Jones yn cadeirio a Meuryn, sef Robert John Rowlands, yn pwyso a mesur cynhyrchion y beirdd. Yna pan lawnsiwyd Radio Cymru ym 1977, daeth ymryson newydd ar y radio or enw Talwrn y Beirdd, gyda Gwyn Williams yn cynhyrchu. Y gwr a ddewiswyd yn Feuryn y tro hwn oedd Gerallt Lloyd Owen, a bu ef yn meurynna am 32 o flynyddoedd. O 1998 ymlaen daeth y rhaglen i gael ei hadnabod fel Y Talwrn, ac maen rhaglen syn dal yn ei bri hyd heddiw. Ers 2012, Ceri Wyn Jones fur Meuryn ac ef sydd wedi golygur gyfrol hon, syn cynnwys detholiad o bigion Y Talwrn dros y pum mlynedd diwethaf. Syniad rhagorol fu cychwyn cyhoeddi pigion y rhaglen radio, a hon ywr drydedd gyfrol ar ddeg yn y gyfres. Mae gwrandawyr cyson yn gyfarwydd iawn ar math o gerddi a geir yma, sef amrywiaeth eang o gerddi caeth a rhydd yn cwmpasu pob math o destun, or llon ir lleddf. Datblygiad newydd go ddiweddar ywr drydargerdd, lle maen rhaid cywasgur cynnwys i ddim mwy na 140 o nodau cyfrifiadurol, a detholiad or trydargerddi a gawn ar ddechraur gyfrol. Ac maen syndod yr amrywiaeth a geir yma mewn cerddi mor fyr, yn amrywio o ddoniolwch pobl fel Dewi Pws Morris i gerddi mwy difrifol megis Cyfarchiad Sul y Tadau, Anwen Pierce, neu Newyddion Da, Eifion Lloyd Jones. Ond ar y cyfan cerddi o natur ysgafn a geir yn yr adran hon. Cwpledi yw cynnwys yr ail adran, ac eto mae tipyn o gymysgedd yma, gyda chwpledi diarhebol neu epigramau yn amlwg iawn, tebyg i hwn gan Gruffudd Owen Nid yw barn yn newid byd; Ofer heb weithred hefyd. Ac mae ambell berl ysgafn yma hefyd, fel hwn gan Gwenallt Llwyd Ifan Un hwyr, aeth Dewi drwyr drain; Bachwyd ei bethau bychain! Dilynir hyn gan ddetholiad da o limrigau gwreiddiol a gogleisiol, cyn symud ymlaen i adran fwy sylweddol y cerddi caeth. Y cywyddau syn tra-arglwyddiaethu yn yr adran hon. Er mai gofyn am gerdd gymharol fyr a wneir ar y rhaglen, maen syndod faint o wirionedd ac o gyfoeth a geir yn y cerddi hyn. Enw syn ymddangos droeon ym mhlith pigion yr adran hon yw Idris Reynolds, ac wedi darllen ei gywyddau caboledig, hawdd deall pam. Dwy adran o naws ysgafn yn bennaf syn dilyn, sef y penillion ymson ar tribannau beddargraff. Dymar cerddi byrion, clyfar syn gwneud i ni chwerthin yn braf pan glywn nhw ar y radio. Beth am y beddargraff hwn i Berfformiwr Meim, o waith Iwan Rhys: Cyflawnaist bob un weithred heb inni fyth dy glywed, Ac felly leni, heb run smic, Fe roddaist gic ir bwced. Ceir amrywiaeth o fesurau yn adran y Cerddi Rhydd, yn amrywio o delynegion byrion i gerddi mwy sylweddol a sonedau. Yma eto mae sglein ar waith y beirdd a cheir yma sawl cerdd gofiadwy. I ddiweddur gyfrol cawn gasgliad helaeth o englynion, sef o bosibl fesur mwyaf poblogaidd y beirdd caeth, ac maen rhyfeddol yr hyn y gallant ei gyflawni mewn pedair llinell gynganeddol, a cheir yma sawl englyn crefftus. Cloir y gyfrol a phedair o gerddi mewn penillion amrywiol. Un o gystadlaethau mwyaf poblogaidd y rhaglen radio yw cystadleuaeth y gan, a hi sydd fel rheol yn creu tipyn o hwyl a rhialtwch. Gofynnir am gerdd heb fod yn fwy nag ugain llinell, ond maer beirdd yn ddyfeisgar iawn wrth ddehongli beth yn union yw ugain llinell! A dyna pam na chynhwysir y caneuon yn y gyfrol, yn ogystal ar ffaith taw cerdd iw pherfformio yw can Y Talwrn yn ei hanfod, fel yr eglura Ceri Wyn yn ei gyflwyniad ir gyfrol. Yn ei gyflwyniad hefyd maen diolch ir gwrandawyr am ddeall a hyd yn oed maddau i mi o bryd iw gilydd nad Gerallt ydw i. Do, cyflawnodd Gerallt wyrthiau dros dymor hir, ond penderfynodd Ceri Wyn dorri ei gwys ei hun. Nid oes angen gofyn am faddeuant, a gobeithio y cawn dalyrna am flynyddoedd i ddod, ac y gwelwn gyfrolau eraill tebyg i hon. -- John Meurig Edwards @ www.gwales.com