Daeth Elan Grug Muse i sylwr byd llenyddol Cymraeg drwy ennill Cadair Genedlaethol yr Urdd yn 2013. Ers hynny, aeth ymlaen i fireinioi chrefft drwy gyhoeddi yn gyson mewn cylchgronau Cymraeg a Saesneg. Ffrwyth myfyrdod y cyfnod hwnnw o deithio ac astudio yw ei chyfrol gyntaf o gerddi, Ar Ddisberod. Ynddi maen mapior daith oi bro enedigol yn Nyffryn Nantlle i brifysgolion Nottingham ar Weriniaeth Tsiec. Bun byw hefyd am gyfnodau yn Sbaen ar Unol Daleithiau cyn dychwelyd i barhau gydai hymchwil ym Mhrifysgol Abertawe. Dyddiadur barddol ydyw syn cofnodi ei theimladau dyfnaf, ac wrth y mwyafrif or cerddi nodir y flwyddyn ar man lle taniwyd y dychymyg. Ei champ fu cyfleu naws y lleoliadau hyn mewn cardiau post o gerddi byrion. Drwy gyfrwng delweddau llachar dawr eiliadau a ddaliwyd yn brofiad i ninnau hefyd. Gan mor synhwyrus ywr dweud, cawn aroglir coed almwn ym Madrid, gwrando ar sgrechian bygythiol gwylanod Cape Cod a gwisgor cotiau gwlan syn ein cadwn gynnes yn nosweithiau rhynllyd Prag. Un oi phrif ddiddordebau academaidd yw llif poblogaethau ar draws y gwledydd, ac adlewyrchir hynny yn y cerddi wrth iddi geisio dod o hyd iw hunaniaeth mewn cymdeithas amlieithog ac amlhiliol syn troin fwyfwy symudol. Wrth chwilio am ei gwreiddiau sylweddola fod etifeddiaeth ei Grampa Americanaidd yn gymaint rhan oi chynhysgaeth ag ydyw milltir sgwar ei thaid ai gap stabal yn Arfon gynt. Er hynny, gwyr hithau fod ein broydd, fel ninnau, yn dieithrion gyflym ac y bydd raid iddi felly bacior atgofion cynnar hyn yn ofalus yn ei rycsac wrth godi pac a symud ymlaen i groesir ffiniau newydd a chofleidior dyfodol dieithr yn ei holl orfoledd ai dristwch. Mae ganddi feddwl agored a llais ifanc, anturus sydd yn werth gwrando arno. Ymunwch gyda hi ar y daith. Fei cewch yn gydymaith difyr a heriol hefyd. -- Idris Reynolds @ www.gwales.com