Dyma drydydd argraffiad o gyfrol a ymddangosodd gyntaf yn 1982 o dan y teitl Yr Antur Fwyaf. Maen gyfrol hardd iw bodio ai diwyg yn denur darllenydd. Maen cynnwys myfyrdodau, cerddi, mapiau a lluniau. Yn bendant, cam doeth a buddiol fu cyhoeddir argraffiad hwn. Gan fod yr awdur yn gyn-athro, yn arolygydd ysgolion ac yn ysgrifennydd ei eglwys, gwyr yn dda beth ywr angen mewn ysgol gynradd, ysgol Sul ac oedfa. Felly, maen gyfrol hynod ddefnyddiol ar sawl lefel. Ceir yma benodau cynhwysfawr yn egluro cefndir gwlad Palesteina ar Wladwriaeth cyn mynd ymlaen i gyfeirio at Weinidogaeth Iesu Grist Ei Hun. Maer penodau ar cyfeiriadau at Anifeiliaid, Adar a Phlanhigion yn ogystal ar Gwyrthiau ar Damhegion yn werthfawr i athrawon ac yn dangos ol ymchwil fanwl. Buddiol iawn ywr mapiau a gynhwysir yn y gyfrol, gan gynnwys rhai lliw. Maer map o Jerwsalem ar dudalen 142 yn dangos y mannau perthnasol ac yn rhoi inni ddarlun cyflawn or ddinas gyda Chalfaria ar y cyrion. Mae cael cynllun fel hyn yn creu darlun clir yn ein meddyliau ac yn well na mil o eiriau. Ceir sawl tudalen yn cynnwys lluniau lliw a rhai du a gwyn yn dangos gwahanol arteffactau fel `sgrol y gyfraith ac `arch y cyfamod. Dymar math o gymorth sydd ei angen ar athro mewn ysgol ac ysgol Sul. Mae gweld lluniau o rai or mannau cysegredig fel yu gwelir heddiw yn syniad hyfryd ac yn pwysleisio perthnasedd y cyfan, e.e. y man lle ganwyd Iesu ym Methlehem ar dudalen 57 ar bedd yn yr ardd ar dudalen 144. Cyfraniad arall teilwng yw lluniau or cerfluniau o Grist ar deuddeg apostol yn Eglwys Gadeiriol Copenhagen. (Y llun yma o gerflun Crist sydd ar glawr y gyfrol). Sylwn yn y fan yma mair Apostol Paul a ddewiswyd i gymryd lle Jwdas Iscariot. Braf edmygu gwaith y meistri! Cyfoethogir y gyfrol gan y dewis addas o farddoniaeth. Hoffais yn fawr ddau emyn oedd yn ddieithr i mi sef Emyn y Pasg gan y Parchedig D. J. Thomas ac un ir Oedfa Gymun gan y Parchedig T. Elfyn Jones. Mae pennill olaf yr emyn hwn yn cydio: Rol darfod swper, cadw ni Rhag cilio oth wasanaeth Di, Dy gwmni rho i nin barhaus - Ymdeithydd diddan ffordd Emaus. Gwreiddiol a chrafog hefyd ywr parodi ar `Hon (T. H. Parry Williams), o waith y Parchedig Huw Ethall sydd yn cloir cyfanwaith: Ac mi deimlaf freichiau yr Iesu au gafael yn grwn, Duw an gwaredo, ni allaf ddianc rhag Hwn. Dim ond codi cwr y llen rydw i wedi medru ei wneud yn fan hyn. Da chi, mynnwch gopi wrth eich penelin. Yn bendant, dyma gyfrol werthfawr, ddefnyddiol ac un iw thrysori - cyfrol sy'n hanfodol i bob athro. Diolch ir awdur am ei gymwynas fawr. -- Beti Griffiths @ www.gwales.com