Mae pawb ohonom, mae'n siwr, yn adnabod rhywun sy'n byw a dementia. Er mai cyflwr corfforol yw dementia - methiant yr ymennydd oherwydd salwch niwro-ddirywiol - yn aml iawn mae stigma ynghlwm wrth ddementia nad yw'n wir am glefydau dirywiol eraill, megis methiant y galon, er enghraifft. Rhan o fwriad y gyfrol hon yw chwalu'r stigma hwnnw a chreu dealltwriaeth well o'r clefyd creulon hwn. Mae'r gyfrol yn rhyw fath o hunangofiant gan yr awdur, wrth iddi dynnu ar ei phrofiad o ofalu am ei gwr sydd a dementia. Ond y mae'n llawer mwy na hynny hefyd, oherwydd fe gawn hanes 13 o ofalwyr, sy'n rhannu eu profiad gyda ni yn y gobaith y bydd hynny o gymorth i eraill. Bydd llawer yn gwerthfawrogi eu gonestrwydd, tra bydd eraill o bosibl yn eu beirniadu am fynd yn gyhoeddus ar faterion ddylai gael eu cadw 'rhwng pedair wal'... 'o dan y mat'. Ond bydd pawb yn gytun, mae'n siwr, fod yr hanesion oll yn rhai trawiadol - dirdynnol yn wir - ac y gwelwn hiwmor hefyd yn brigo i'r golwg ar adegau drwy'r cyfan. Yn ail hanner y gyfrol cawn ysgrifau gan arbenigwyr sy'n cynnig cyngor ymarferol ar amrediad o agweddau o ystyriaethau cyfreithiol i sut i fynd ati i hunanofalu. Nid llawlyfr ar ddementia yw'r gyfrol hon, nac ychwaith ddadansoddiad gwyddonol o'r cyflwr. Mae'r pwyslais ar rannu profiadau unigolion sy'n gwybod beth yw byw a dementia, ynghyd a chynnig cyngor ymarferol. Dyma gyfrol anhepgor, felly, i unrhyw un sydd am glywed yn uniongyrchol gan ofalwyr a chan arbenigwyr, er mwyn eu cynorthwyo i wir ddeall y cyflwr a'i effeithiau. -- Cyhoeddwr: Prydwen Elfed-Owens