Gan mai nofel gan Roald Dahl yw hon, mae ein disgwyliadau, wrth gwrs, yn uchel or cychwyn cyntaf, a chawn ni ddim ein siomi. Maer stori yn dal ein diddordeb yn syth wrth i ni gwrdd r prif gymeriad hynod, sef Matilda. Merch fach gyda dawn a gallu arbennig yw Matilda er nad yw ei rhieni yn sylweddoli hynny. Yn dair oed maen medru darllen yn rhugl ac yn mwynhau pob math o lyfrau. Cyn pen dim mae hi wedi darllen pob llyfr yn yr adran i blant yn y llyfrgell. Yna cawn glywed am ei phrofiadau yn yr ysgol ble maen cwrdd r brifathrawes ofnadwy a chreulon, Miss Trunchbull. Yn anffodus i Matilda, mae Miss Trunchbull yn cymryd yn ei herbyn yn syth, wel maen casu plant bach yn gyffredinol, ond maen casu Matilda yn fwy na neb am ei bod mor ddeallus. Maen edrych yn debyg bod dyddiau ysgol Matilda yn mynd i fod yn rhai anodd dros ben ond rhaid peidio datgelu gormod am hynny! Cryfder pendant y stori ywr cymeriadau lliwgar sydd yn cael eu disgrifio yn wych. Hyd yn oed heb y darluniau effeithiol byddem yn gwybod yn union sut rai ydynt ou disgrifiadau. Ceir digon o ddigwyddiadau cyffrous a hiwmor hefyd i wneud y nofel yn bendant yn werth ei darllen! Gail Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru