Maer casgliad hwn yn cynnwys cynnyrch Talwrn y Beirdd yn bennaf rhwng 2005 a 2010, er bod ambell gerdd o 2011 yno hefyd, sef blwyddyn olaf Gerallt Lloyd Owen fel Meuryn. Ceir y detholiad cyfarwydd o gynnyrch barddol a hynny gan dimau ar hyd a lled Cymru, yn hen ac yn ifanc.
Fel y dywed y golygydd yn ei gyflwyniad ir gyfrol:
Er ymryson barddoniaeth an gilydd i gael goruchafiaeth ein Talwrn di-ddwrn a ddaeth yn Dalwrn ein brawdoliaeth.
Dyma gasgliad olaf o bigion y Talwrn dan olygyddiaeth Gerallt Lloyd Owen, ac felly yn benllanw ar flynyddoedd o fod wrth y llyw mewn talyrnau led-led Cymru. Maer rhagymadrodd bywiog gan Ceri Wyn Jones, y Meuryn presennol, yn crynhoi cyfraniad Gerallt dros y blynyddoedd, cyfraniad y gyfres ac yn wir arwyddocad y gyfrol hon or Pigio. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Ddeuddeng mlynedd ar hugain yn feuryn a golygydd deuddeg cyfrol o gyfres Pigion y Talwrn, ond hyd yn oed wedyn, mae ei gamp yn llawer mwy nag y gall yr un ystadegyn ei chyfleu. Ni fedrwn fynegi maint camp Gerallt Lloyd Owen yn well nar hyn a ddywed ei olynydd ar Y Talwrn, Ceri Wyn Jones, yn rhagair y gyfrol hon: Yn wir, maen deg dweud i Gerallt, drwy ei esiampl ai anogaeth, lywio chwaeth artistig cenhedlaeth o feirdd. Ie, yn 1979 y dechreuodd y cyfan. Blwyddyn hanesyddol. Fel y dywed Ceri Wyn eto: Dyma flwyddyn y Na i ddatganoli yng Nghymru. Dymar flwyddyn yr ymosododd byddin yr hen Undeb Sofietaidd ar Afghanistan. Yna, gyda hiwmor yr un mor gynnil ag un ei ragflaenydd, aiff ati i ddisgrifio 1979 fel blwyddyn fawr i unbenaethiaid yr Ayatolla Khomeini a Margaret Thatcher. Ac, er nad oes cysylltiad o bethaur byd, dymar flwyddyn hefyd y bu i Gerallt Lloyd Owen gychwyn arni fel meuryn Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru! Ie, sguboriau Gerallt yw deuddeg cyfrol y Pigion. Beirdd eraill wnaeth wasgarur grawn ai feithrin. Ond mae marc Gerallt ar ystlys pob gambo a wnaeth gludor yd ir ydlan. Gwir y dywed Ceri Wyn: Maer graen sydd ar gerddir beirdd yn dyst iw dyled ... an dyled ni i gyd iddo. Ac yn ogystal a bod yn feuryn, bu hefyd yn gyflwynydd dihafal. Fel y dywed y meuryn presennol, Fe addysgodd ac fe blesiodd genhedlaeth o wrandawyr, oherwydd roeddent hwythau wrth eu bodd yng nghwmni ei lais, ei ffraethineb ai angerdd tawel. Ac ie, Ceri, rhaglen Gerallt oedd y Talwrn. Maer gyfrol olaf hon or deuddeg yn cynnwys pigion cyfresi 20052011 ac yn dilyn yr un patrwm llwyddiannus: adrannau yn cynnwys englynion cywaith, cwpledi, limrigau, penillion dychan, penillion ymson, telynegion a sonedau, englynion amrywiol a chywyddau. Mae Gerallt yn cloi ei gyflwyniad byr olaf gydag englyn ffarwel: Er ymryson barddoniaeth an gilydd i gael goruchafiaeth, ein Talwrn di-ddwrn a ddaeth yn Dalwrn ein brawdoliaeth. Ac fel un a gafodd y fraint o fod yn aelod or frawdoliaeth honno am flynyddoedd, carwn ychwanegu fy niolch gwylaidd personol ir meuryn, y meistr ar cyfaill annwyl. -- Lyn Ebenezer @ www.gwales.com