Fe gwrddais a rhywun o Tokyo Heb wybod ai merch neu dyn oedd-o ... Onid ydyn ni'n ysun barod i wybod beth oedd tranc y creadur hwn wrth iddo weld rhyfeddodau yn Siapan ... a dyna yw cyfrinach limrig arbennig o dda, wrth gwrs cymeriad a hanner yn adrodd ei hanes, a hynny mewn pum llinell sionc ar odl. Ac, wrth gwrs, mae limrig da hefyd yn siwr o godi gwen! Fel y gwelir or teitl, cawn yma lond sach a mwy o limrigau difyr a doniol wedi eu casglu gan Tegwyn Jones, ac yntau ei hun yn limrigwr o fri. Yn y rhagymadrodd cawn ganddo hanes ffurf y limrig ynghyd a'i le o fewn llenyddiaeth Gymraeg, cyn mynd ati i fwynhaur geiriau ffraeth a'r delweddau lliwgar o fewn y cerddi. Nid llyfr iw ddarllen or dechrau ir diwedd mo hwn, ond un iw gadw wrth ochr y gwely am chwarddiad neu ddau cyn cysgu, neu am wen fach pan fo pum munud yn rhydd am seibiant traed-i-fyny a phaned o de, a chyda dros bedwar cant o gerddi iw mwynhau, bydd yn donic ir darllenydd am sbel go dda! Cawn ddianc i ryw fyd hurt, hoffus a heriol, ac wrth eu darllen mae modd neidion feddyliol i fydoedd dirifedi! Fel y sonnir yng nghefn y llyfr, does dim angen tabledi, tonic na ffisig yn y ty mae digon o bic-mi-yp iw gael rhwng tudalennaur gyfrol ddigri hon. -- Llinos Griffin @ www.gwales.com