Cart
Free Shipping in the UK
Proud to be B-Corp

Gwaddol Gwynfor ab Ifor

Gwaddol By Gwynfor ab Ifor

Gwaddol by Gwynfor ab Ifor


£6.60
New RRP £7.95
Condition - Very Good
Only 1 left

Summary

This is the only collection of poems by the late Gwynfor ab Ifor - chaired bard and regular contributor to the periodical Barddas for many years.

Gwaddol Summary

Gwaddol by Gwynfor ab Ifor

This is the only collection of poems by the late Gwynfor ab Ifor - chaired bard and regular contributor to the periodical Barddas for many years.

Gwaddol Reviews

Yn 2006 yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, enillodd Gwynfor ab Ifor y Gadair am ei awdl Tonnau. Bu farw naw mlynedd yn ddiweddarach yn 61 oed, ac maer gyfrol hon yn un iw thrysori fel crynhoad oi gyfraniad gwerthfawr i fywyd llenyddol Cymru. Maen fardd syn gofyn cwestiynau mawr ynglyn a natur ein bodolaeth. Air funud hon yn unig syn cyfrif? Onid oes gennym i gyd ein can iw chanu a gwaddol iw adael ar ein hol? Cyn mynd ati i bori yn y gyfrol maen werth darllen cyflwyniad goleuedig Ieuan Wyn a rhagair Elin Gwyn, un o ferched y bardd. Cewch arweiniad gan Ieuan Wyn i hanes a gyrfa Gwynfor ab Ifor, a sylwadau ar ei grefft ai themau gan un a fun cyd-dalyrna ac yn cydymrysona ag ef. Dwys ar y cyfan yw cywair y cerddi, er bod yna rai cerddi hwyliog a doniol hefyd. Crynhoir y naws dywyll mewn englyn o ran gyntaf ei awdl Tonnau, syn adrodd am frad a thor perthynas: Hwyliaf heb geisio golau ni hawliaf Wen yr haul im llwybrau; Ond ir don ddigalon gau Drosof fel clepian drysau. Yn sicr mae yn yr awdl ymwybyddiaeth o farwoldeb dyn Nid yn hir caiff dyn aros syn atgoffa rhywun o thema fawr R. Williams Parry Marwolaeth nid ywn marw hyn sydd wae: Fe oerwn on llafurwaith; diflannu O wen ein teulu, o fryniaun talaith. Mwy gobeithiol ywr awdl Gwaddol ar ddiwedd y gyfrol, oherwydd maer bardd yn mynnu bod yna gan inni ei chanu tra byddwn yma, ar gan honno ywr gwaddol a adawn ar ein hol. Dyma ddwy thema fawr Gwynfor ab Ifor byrhoedledd dyn ar gwaddol y gall ei adael ar ei ol. Mae fel petair ddwy theman cystadlu am oruchafiaeth yn ei waith. Ceir y pwyslais ar y gwaddol a adewir gan ddyn a chymdeithas yn yr hir a thoddaid Aberffraw, syn gorffen ar awgrym bod hanes tywysogion Gwynedd yn dal in hysbrydoli. Ond Heddiw ywr oll a feddwn meddai yn y cywydd Ar Hanner Brawddeg. Ac eto, Rhyw lafn yn rhywle o hyd / O heulwen fyn ddychwelyd yw ei brofiad yn Myfyrdod ym Mathrafal. Rhaid pwysleisior ysgafnder a geir yn y gyfrol hefyd, gan un a allai fod yn dipyn o gymeriad yn ei ieuenctid, er enghraifft yn y cerddi Yn Un ar Hugain Oed a High Noon. Ac weithiau cawn gip ar lawenydd; yn y gerdd Drych am yr Archentwraig o dras Gymreig Sarah Jones Macdonald, ceir golwg sydyn ar y llawenydd a oedd yn nodwedd gref oi phersonoliaeth, lle maer bardd yn edrych gydai hwyrion ar lun o lawenydd / yn nhawelwch y paith. Wrth ddarllen, byddwch yn sylwi ar feistrolaeth y bardd ar amrywiaeth o fesurau. Maer mesurau caeth yn amlwg ac maer gyfrol yn cynnwys adran sylweddol o englynion; mae yma hefyd gywyddau a hir a thoddeidiau yn ogystal ar awdlau. Ond mae nifer dda o gerddi rhydd hefyd, yn delynegion, sonedau afreolaidd a mesurau emynyddol eu naws. Mae sawl cerdd grefyddol ac emynyddol a fyddain addas iw defnyddio mewn oedfaon, e.e. Drws Agored: Mae dy ddrws yn llydan gored Ath oleunin tywynnun gry, Pam na allaf weled ynddo Drwyr tywyllwch ar bob tu? Sonia Ieuan Wyn am feistrolaeth Gwynfor ab Ifor ar lenyddiaeth Gymraeg. Un o bleserau darllen y gyfrol i mi oedd sylwi ar y cyfeiriadau yma ac acw at gerddi arwyddocaol beirdd eraill. Yn y cwpled a ddyfynnais uchod o Myfyrdod ym Mathrafal (Rhyw lafn yn rhywle o hyd / O heulwen fyn ddychwelyd), mae adlais amlwg o waith Dic Jones syn gweld darn o haul draw yn rhywle. Ac nid ywn syndod clywed adleisiau o Caradog Prichard hefyd, yn enwedig yn un or cerddi gorau, Y Bryniau Hyn. Mae llinellau olaf y gerdd yn adleisio Can yr Afon Caradog Prichard oi bryddest Y Briodas. I mi mae yma adlais hefyd o gerdd Waldo, Geneth Ifanc a chadarnhad o gred y bardd mewn gwaddol: Cadarnach y ty anweledig a diamser / Erddi hi ar y copau hyn. Cyd-ddigwyddiad hapus yw gweld yn y gyfrol dri englyn I Gyfarch T. James Jones, Bardd y Gadair 2007, 12 mlynedd cyn i Jim ennill ei ail Gadair yn Llanrwst eleni. Maer ail englyn yn dechrau ar llinell Ei ddawn i greu wna i ddyn grio, syn troi ar ei phen linell ddwys ac enwog Dic Jones, Ei dawn i wylo yw gwerth dynoliaeth. Chwedl T. H. Parry-Williams, Dagrau syn creu holl gelfyddydwaith dyn; gall y gelfyddyd honno yn ei thro ennyn dagrau. A chreu gwaddol. -- Glenys Mair Roberts @ www.gwales.com

Additional information

GOR013671265
9781911584292
1911584294
Gwaddol by Gwynfor ab Ifor
Used - Very Good
Paperback
Cyhoeddiadau Barddas
2019-07-05
120
N/A
Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.
This is a used book - there is no escaping the fact it has been read by someone else and it will show signs of wear and previous use. Overall we expect it to be in very good condition, but if you are not entirely satisfied please get in touch with us

Customer Reviews - Gwaddol