O glywed bod y rhyfeddol Alan Llwyd awdur cofiannau rhai o brif lenorion Cymru yn bwriadu cyhoeddi cofiant i T. Gwynn Jones, fem synnwyd braidd. Oni chyhoeddodd David Jenkins gampwaith o gofiant manwl iddo yn 1973? Beth bynnag oedd troeon meddwl Alan a diau fod ei edmygedd mawr o Gwynn Jones yn gymhelliad y canlyniad fur gyfrol hon o fwy na 500 tudalen, dros gan tudalen yn hwy na chyfrol David Jenkins. Maen anorfod fod y ddau gofiannydd wedi defnyddio rhai or un ffynonellau. Ond mae gwahaniaeth pendant rhyngddynt hefyd, un mwy sylfaenol nar gwahaniaeth yn hyd eu cyfrolau. Y prif wahaniaeth ywr gofod eithriadol hael a rydd Alan Llwyd i eiriau Gwynn Jones ei hunan: prin iawn yw tudalennaur gyfrol lle na cheir dyfyniad(au) oi weithiau llenyddol neu ei lythyrau. Gellid dal bod y dyfynnu weithiau braidd yn annethol ac yn rhy faith ac y byddair ymdriniaeth yn dynnach a llwybr y darllenydd yn llai llafurus o docior gyfrol rai degau o dudalennau. Eto, gellir amddiffyn y dull (a welir yng nghofiannau eraill Alan): diau y byddai Alan yn dadlau ei fod yn dyfnhau amgyffred y darllenydd o athrylith ac o amrywiaeth cwbl ryfeddol gwaith Gwynn drwy ei dynnu aton gyson o dudalen i dudalen. Ac maer dull hefyd yn hwyluso arfer Alan o gyflwyno sylwadau beirniadol rhai estynedig ar dro ar weithiau unigol, boed y rheinyn gerddi neun weithiau rhyddiaith. Fe fydd rhannau arbennig or gyfrol yn aros yn fy nghof. Rhagorol ywr penodau cyntaf syn darlunio cefndir cynnar Gwynn ac syn llwyddo drwy ddyfynnu i ddangos ei addewid lenyddol rhyfeddol yn llanc. Yn sgil profiad ei deulu collodd ei dad denantiaeth dwy fferm oherwydd dichell meistri tir Toriaidd plannwyd gwreiddiau radicaliaeth Gwynn yn gadarn. Os mynnir amgyffred meddylfryd ac ysbryd mudiad byrhoedlog, ond pwysig, Cymru Fydd darllener ail bennod y gyfrol syn ymdrin a chyfnod Gwynn fel cyw newyddiadurwr ar Y Faner ar Cymro, pan oedd Emrys ap Iwan a Thomas Gee yn ddylanwadau arno. Un arall or uchafbwyntiau i mi oedd yr wythfed bennod Madog a Mabon ar flynyddoedd y Rhyfel Fawr, cyfnod anesmwyth ir heddychwr Gwynn yn hen dref fach filain Brydeinllyd Aberystwyth. Gwna Alan Llwyd gryn ddefnydd o ddyddiadur Gwynn The Diary of a Pacifist dyddiadur Saesneg yn rhyfedd ddigon i gyfleu ing a thensiynau y blynyddoedd dreng hyn, ond nyddir sawl edefyn arall hefyd yn gelfydd i lunio gwead cyfoethog y bennod hon. Yr oedd Gwynn yn llythyrwr toreithiog ac mae ei lythyrau ymhlith ffynonellau pwysicaf y gyfrol. Gwna Alan ddefnydd helaeth oi ohebiaeth hirfaith ag E. Morgan Humphreys, hen gyfaill er dyddiaur ddau yn newyddiadurwyr ar Y Genedl yng Nghaernarfon yn 1908 09. Mae Gwynn y llythyrwr tra phigog weithiau: un na wyddai odid ddim, ond sut i osod llyfr ar silff oedd John Ballinger, ein Llyfrgellydd Cenedlaethol cyntaf, yn ol ei was anfoddog (a braidd yn annheg!) o gatalogydd. Ond datgelir meddyliau dwysach hefyd yn nifer or llythyrau. Yn ddi-ddadl, bendithiwyd Gwynn Jones a dau gofiannydd galluog. Mewn adolygiad byr fel hwn ni ellir gwneud cyfiawnder a chyfoeth cyfrol hir Alan Llwyd. Yn sicr iawn ymdeimlir oi darllen ag athrylith T. Gwynn Jones, bardd mawr, ie, ond un yr oedd iddo lawer o dannau eraill hefyd, ieithydd, ysgolhaig, cofiannydd, cyfieithydd, beirniad, nofelydd, storiwr: dyma, yn sicr, un o ffigurau mwyaf gwareiddiad Cymraeg yr ugeinfed ganrif. Gruffydd Aled Williams (Diolch i bapur bro Y Tincer am yr hawl i gopio'r adolygiad.) -- Cyngor Llyfrau Cymru