Ci ydy Clem. Ci bach ydy Clem. Ci bach crwn ... Ond na, mae Clem yn llawer mwy na hynny! Dymar llyfr anwylaf i mi ei ddarllen ers sbel. Cawn ynddo anturiaethau Clem ar y fferm ac mae hin amhosib peidio a syrthio mewn cariad ag ef or cychwyn cyntaf. Beth sydd well na chi trwsiadus mewn beret a hosan bobli yn mynd am antur i ganol cefn gwlad, y tail ar teirw? Cyn gynted ag y mae Mr a Mrs Sgidiesgleiniog yn gadael eu cartref moethus ac yn mynd i'r gwaith, mae Clem yn meddwl am antur. Yn y llyfr hwn mae'r antur yn mynd ag ef a Syr Boblihosan, ei ffrind gorau, at Mrs Cacen-Dom ac maer diwrnod iw weld yn un braf iawn yng nghwmni'r ceffylau, yr ieir a'r eclairs siocled. Ond daw ffair y sir ai helynt ar eu traws, ac maen eitha amlwg nad ydi Clem yn fawr o gi defaid, ond beth am ei allu i ddal tarw ffyrnig? Maer darluniau coch, gwyn a du ymysg y rhai deliaf a welais erioed, a dwi'n ysu am gael darllen helyntion Clem yn y Ddinas a Clem ar Wyliau. Wedi'r cyfan, nid ci cyffredin mo hwn! -- Llinos Griffin @ www.gwales.com