This 'Richard & Judy' Bookclub story is perfect as a first reading book and can be enjoyed by both boys and girls. Suitable for readers aged 5 years +, key stage 1 and 2. Claude/Clem is no ordinary dog - he leads an extraordinary life! When Mr and Mrs Shinyshoes/Sgidiesgleiniog set off for work, Claude/Clem decides what adventure he wants to have that day. Today he and Sir Bobblysock/Syr Boblihosan go to the city for the very first time. They have tea in a cafe, go shopping and visit a museum. It is all very normal until... Claude/Clem accidentally foils a robbery and becomes the local hero! -- Publisher: Rily
Ci bach crwn mewn beret a siwmper goch yw Clem. Pan mae ei berchnogion, Mr a Mrs Sgidiesgleiniog, yn y gwaith mae o'n cael pob math o anturiaethau. Yn y gyfrol hon mae'n mentro i'r ddinas fawr gan ryfeddu at bopeth mae o'n ei weld, gan lwyddo i ddal lleidr yn ystod ei ymweliad a'r oriel gelf, hyd yn oed! Yna, yn ail ran y stori, rhaid i Clem fynd a'i gyfaill, Syr Boblihosan, i'r ysbyty, ble mae Clem yn cael ei gamgymryd am feddyg ac yn llwyddo i wella cleifion o ryw salwch dirgel. Mae hwn yn llyfr a fydd yn sicr o ddiddanu rhieni yn ogystal a'u plant. Mae'n gymysgedd hyfryd o ddiniweidrwydd a hiwmor wrth i Clem fynd i ganol pob math o sefyllfaoedd difyr. Mae'n cochi wrth weld rhai o'r cerfluniau yn yr oriel gelf ac yn mynnu mesur tymheredd cleifion yr ysbyty a banana. A phwy all beidio dotio at Syr Boblihosan ffyddlon, er ei fod yn 'frwnt ac arogli fel caws, braidd'? Mae'n llyfr llawn direidi ac mae'r lluniau deniadol yn ychwanegu'n fawr at y dweud. -- Cerian Arianrhod @ www.gwales.com