Ymhlith cynnyrch y gyfrol hon mae cerddi marwnad i ffigyrau cenedlaethol amlwg megis Hywel Teifi, Ray Gravell, Nigel Jenkins, John Davies, Bwlchllan, a Gerallt Lloyd Owen. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pan gododd Aneirin Karadog ar alwad y Corn Gwlad yn y Fenni, medrech deimlor cynhesrwydd yn ymledu drwyr dorf. O weld pwy oedd i dderbyn y Gadair, teimlai pawb fod gwr hynaws a chynnes ar fin mynd at ei wobr. Ar ben hynny, teimlid bod rhywun gwahanol ar ei draed. Yn un peth, mae ei gyfenw Karadog yn ei osod ar wahan ac yn tanlinellur cyswllt Celtaidd. Mae ei wyleidd-dran wahanol. Mae ei amliethedd yn wahanol. Mae ei weledigaeth yn wahanol. Gall y gair Bylchau, sef teitl y gyfrol hon o gerddi, fod yn un amwys, ac mae iddo lu o ystyron. Sonia Aneirin yn y rhagair am y bylchau a adewir o golli cyfleoedd, ar cwestiwn mawr hwnnw syn holi air cyfle diweddaraf fyddair cyfle olaf. Ond y bylchau amlycaf yn y cerddi ywr rhai a ddaeth o golli perthynas, cyfaill neu gydnabod. Maen nhw yman llu, gwaetha'r modd; o Cathryn ei gyfnither a fu farwn 35 oed, i Dic a Ray, Orig a Hywel, Iwan a Nigel, John, Gerallt a Mered. A mwy. Sylwch nad oes angen cyfenwau. Mae hyn yn ychwanegu at y cynhesrwydd, rywfodd. Do, gadawyd bylchau, a'r rheiny'n arwain at alar. Ond mae yma obaith hefyd, y gobaith y daw cyfle arall, fel yn y gerdd syn cymharur Llydaweg ar Gymraeg. Cerddi hynod bersonol yw llawer ohonynt, ond nid yw hynny'n ein hatal ni rhag rhannu'r galar a'r gobaith. Fel y dywed yn ei ragair, cyfarfu Aneirin a phawb a wewyd i wneuthuriad y cerddi hyn. Ei ddymuniad yw i ninnau ddod iw hadnabod, yn arbennig Cathryn. Y cerddi amdani hi ywr rhai mwyaf ingol yn y gyfrol. Ond er gwaethar hiraeth, nid cerddi pruddglwyfus mor rhain. Does yma ddim galaru ystrydebol. Dywed Aneirin fod ein cewri/ yn ailgodi bob gwanwyn. Yn gymysg ar rhai sy'n ymwneud a cholli, ceir hefyd gerddi teyrnged i wahanol arwyr o fyd y campau, yn cynnwys, yn briodol iawn, un i Chris Coleman ac Osian Roberts. Cawn hefyd gywydd hynod hoffus iw olynydd fel Bardd Plant Cymru, Anni Llyn. Mae cynfas Aneirin yn un llydan, fel y gellid disgwyl gan wr mor eang ei gefndir; un syn Gymro, yn Gelt, yn Ewropead ac yn fyd-eang ei feddylfryd. Rwyn un syn credu yn y cysylltiad rhwng clawr a chynnwys. Ac yma ceir clawr syn rhagarweiniad perffaith ir cynnwys. Cawn glwstwr o ddeiliach miaren ir yn mynnu gwthio drwy fwlch rhwng dwy astell. Na, wnar bylchau ddim para am byth. -- Lyn Ebenezer @ www.gwales.com