Heb amheuaeth, dyma un o'r llyfrau pwysicaf y byddwch chi'n ei ddarllen 'leni! Ydych chi wedi drysu gyda thermau fel 'cynhesu byd eang' a 'newid hinsawdd'? Ydych chi'n chwilio am lyfr sy'n esbonio hyn i gyd, a llawer mwy, mewn ffordd hawdd ei deall? Wel, os felly, dyma'r llyfr perffaith i chi! Mae Stori Newid Hinsawdd yn gwneud 'be mae o'n ei ddweud ar y tun' - dyma lyfr sy'n cyflwyno stori amgylcheddol ein planed o'r cychwyn cyntaf un hyd at y presennol, sy'n dipyn o gamp i'w wneud mewn un llyfr! Mae lluniau lliwgar Amy Husband a Mike Love yn ardderchog, ac yn bwysig iawn ar gyfer esbonio rhai o'r cysyniadau sy'n cael eu trafod. Dyma lyfr sy'n sicr yn edrych yn dda iawn, ond un sy'n cynnwys lot o wybodaeth hefyd. Fe gewch chi'ch synnu cymaint o wybodaeth a ffeithiau sydd wedi eu gwasgaru ar draws y tudalennau. Cychwynna'r llyfr filiynau o flynyddoedd yn ol, mewn cyfnod cyn y dinosoriaid, pan oedd y blaned yn ifanc iawn. Yna, rydym yn hepgor cyfnod y bobl gyntaf ac yn neidio o amser cynhanesyddol yn syth at Oes Fictoria a'r chwyldro diwydiannol. Fe ddysgwn am sut mae ffatrioedd a ffermio dwys yn rhyddhau nwyon i'r atmosffer a sut y gall hyn arwain at newidiadau mawr i'n planed a'n ffordd o fyw. Mae'r llyfr yn cydnabod mai ni, y bobl, yw achos newid hinsawdd y blaned, ond mae'n esbonio hyn yn glir heb geisio dychryn darllenwyr iau fel mae rhai llyfrau'n gwneud. Mi fydd y llyfr yn adnodd arbennig o ddefnyddiol yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer gwaith ymchwil, gan ei fod ar lefel addas iawn i CA2. Yn y cwricwlwm newydd, bydd mwy o bwyslais ar weithio'n drawsgwricwlaidd - rhywbeth y mae'r llyfr yma yn sicr yn cynnig y cyfle i'w wneud, gan ei fod yn cynnwys elfennau o ddaearyddiaeth, gwyddoniaeth a hanes. Er bod materion eraill yn llenwi'r penawdau i gyd, mae'n rhaid i ni gofio bod argyfwng yr hinsawdd yn parhau i fod yn un o fygythiadau mawr ein hoes. Os ydym am barchu'r ddaear a ffeindio ffyrdd mwy cynaliadwy a gwyrdd o fyw, bydd rhaid i bawb weithio gyda'i gilydd i gyrraedd y nod. Dyma obeithio y bydd y llyfr yma'n ysbrydoli ac yn sbarduno gwyddonwyr, peirianwyr, dyfeiswyr a gwleidyddion y dyfodol i weithredu ac i achub y Ddaear! -- Morgan Tomos @ www.gwales.com