O'r diwedd, dyma lyfr yn y Gymraeg i ateb y cwestiwn 'O ble mae pobl yn dod?' sy'n esbonio theori esblygiad. Mae taer angen llyfrau ffeithiol fel hyn i annog gwyddonwyr bach Cymraeg y dyfodol ac i feithrin meddyliau chwilfrydig, heb son am ehangu eu geirfa yn y Gymraeg. Mae pynciau digon cymhleth yn cael eu trafod yma, megis datblygiad bywyd o'r celloedd cyntaf ac esblygiad dyn, ond mae'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n ddealladwy i blant wrth iddynt, o bosibl, gael eu cyflwyno i'r cysyniadau hyn am y tro cyntaf. Sonnir am y tameidiau bychain a roes fywyd i'r byd a'r celloedd hyn yn troi'n greaduriaid o bob math. Cawn hanes oes y deinosoriaid ac esblygiad mamaliaid a phobl, a chyn bwysiced a dim cawn y cyd-destun heddiw wrth i bobl lenwi'r blaned a difetha lleoedd gwyllt. Yn y llyfr ceir darluniau syml a swynol sy'n llenwi'r tudalennau, ac nid yn unig maent yn ychwanegu cryn dipyn o liw at y testun, maent hefyd yn ddefnyddiol iawn wrth esbonio ac esgor ar drafodaeth bellach. Mae llinell amser (e.e.'65 miliwn o flynyddoedd yn ol') ar bob tudalen, sy'n wych o beth gan fod llinell amser yn gysyniad anodd i blant ond mae'n bwysig iawn dechrau trafod pa mor hir y mae wedi ei gymryd i fywyd ar y ddaear (a dyn) esblygu. Gellid dadlau fod y 'llinell amser' sydd ar dudalen yr eirfa yng nghefn y llyfr yn gamarweiniol gan nad yw pob cyfnod mewn gwirionedd yn 'gyfartal' a dylid fod wedi rhannu hyd y llinell ar y dudalen yn fwy cymesur, h.y. byddai 'heddiw' a'r miliwn o flynyddoedd diwethaf yn llawer, llawer llai. Mae iaith yr addasiad yn fywiog a chyfoethog, er bod dewis defnyddio berfau amhersonol (e.e. 'cymylwyd y moroedd') a berfau cryno anghyfarwydd (e.e. 'trawodd') yn destun trafod. Mae'r eirfa/geiriau ar ddiwedd y llyfr yn hynod ddefnyddiol, ond trueni nad oedd 'nwy' hefyd wedi'i gynnwys gan y gall hwnnw o bosibl beri problem esbonio i ambell riant. -- Angharad Williams @ www.gwales.com