Profodd cyfres Bro a Bywyd yn boblogaidd dros y blynyddoedd gan ei bod, yn fy nhyb i, yn rhoi cyfle i rywun fusnesa. Oherwydd, mewn un ffordd o siarad, maen galluogir darllenydd i droi tudalennau llyfrau ffotograffau preifat y person syn destun y llyfr ac mae hynnyn bodlonir voyeur sydd ym mhob un ohonom, er bod rhai yn dewis gwadu neu gwato hynny. Yn achos Gwynfor Evans, efallai nad ywr profiad hwnnw yn union yr un fath gan ei fod wedi byw cymaint oi fywyd o flaen llygaid y genedl yr oedd yn pledio ei hachos mor daer. Or cyfnod pan yi hetholwyd yn llywydd Plaid Cymru yn 1945 hyd at ei farwolaeth yn 2005, ef oedd prif ladmerydd y cenedlaetholdeb blaengar a rhyddfrydig yr oedd ef ei hun wedii greu i raddau helaeth iawn. Maer gyfrol yn adlewyrchu hynny yn dda trwy gofnodir Gwynfor cyhoeddus yn mynd o un ymgyrch ir llall: Trawsfynydd, Capel Celyn, Senedd i Gymru, etholiadau lleol a chyffredinol (gan gynnwys isetholiad Caerfyrddin 1966), ac Ympryd y Sianel. Maer gyfrol hefyd yn cofnodi ei fywyd preifat cynnar yn y Barri ai fywyd gydai wraig, Rhiannon, ar teulu yn y Dalar Wen, Llangadog. O gwmpas y ffotograffau hyn maer golygydd, Peter Hughes Griffiths, wedi ychwanegu stor o wybodaeth ddefnyddiol ac wedi plethu ynghyd nifer o ddyfyniadau difyr o hunangofiant Gwynfor ei hun, Bywyd Cymro, a chofiant gorchestol Rhys Evans, Rhag Pob Brad. Ir sawl sydd eisiau cyflwyniad byr a hwylus i fywyd a gwaith Gwynfor Evans, dylair gyfrol hon fod yn ddefnyddiol iawn. Mae ir gyfrol rai gwendidau. Os rhywbeth, y mae gormod o luniau yn y gyfrol ac or herwydd mae nifer ohonynt yn cael eu hatgynhyrchu yn rhy fach i neb fedru adnabod yr wynebau niferus mewn llawer or portreadau grwp. Nid oes modd chwaith ir darllenydd chwilfrydig olrhain y ffotograffau iw ffynhonnell bydd hyn yn golled i ymchwilwyr yn y dyfodol wrth iddynt geisio dod o hyd i'r ffotograffau yma unwaith eto. -- Lyn Lewis Dafis @ www.gwales.com