Cart
Free US shipping over $10
Proud to be B-Corp

Y Gynghanedd Heddiw Cyhoeddiadau Barddas

Y Gynghanedd Heddiw By Cyhoeddiadau Barddas

Y Gynghanedd Heddiw by Cyhoeddiadau Barddas


$25.99
Condition - Very Good
Only 1 left

Summary

An appealing, easy to read volume comprising a variety of essays, edited by Aneirin Karadog and Eurig Salisbury, celebrating the continuity and richness of 'cynghanedd' (Welsh strict metre) in current day Wales.

Y Gynghanedd Heddiw Summary

Y Gynghanedd Heddiw by Cyhoeddiadau Barddas

An appealing, easy to read volume comprising a variety of essays, edited by Aneirin Karadog and Eurig Salisbury, celebrating the continuity and richness of 'cynghanedd' (Welsh strict metre) in current day Wales.

Y Gynghanedd Heddiw Reviews

Weithiau, ymagweddir at y gynghanedd fel petain rhyw hanfod dirgel, anghyffwrdd nad oes ond ychydig iawn o bobl yn gallu ei gwir drin ai deall. Rydym yn gyfarwydd ar trafodaethau hynny ar y gynghanedd syn drwm gan y fath ymgyfrinio niwlog: oni chlywir rhain honni, o bryd iw gilydd, tawr gynghanedd yw penllanw a chraidd cynhysgaeth lenyddol y Gymraeg, onid nod amgen y cyfan? Neu ei bod yn rhyw fath o berffeithrwydd dwyfol y maen rhaid ymgrymu ger ei fron gyda pharchedig ofn? Maer gyfrol hon, diolch byth, yn tasgu peth dwr oer rhesymol ar agweddau or fath, yn ogystal a chynnig cyfoeth o drafodaethau o sawl cyfeiriad a sawl disgyblaeth. Ceir detholiad eclectig o ymdriniaethau, yn ysgrifau beirniadol a phytiau mwy sgyrsiol eu naws, ac felly ni welir y fath uniongrededd ymosodol sydd wedi amharu ar drafodaethau ar y gynghanedd yn y gorffennol. Maer ysgrifau beirniadol yn cwmpasu sawl maes. Ceir ambell ymdriniaeth hanesyddol: barddoniaeth gaeth y cyfnod modern cynnar; golwg ar ramadegaur beirdd hyd at John Morris-Jones; a Dafydd ap Gwilym ai gyfoeswyr. Ceir ysgrif ddiddorol ar y gynghanedd ar Llydaweg. Ond yr ysgrifau beirniadol mwyaf trawiadol a buddiol yn y gyfrol hon ywr rheiny syn ymhel a theori lenyddol a chymdeithasegol mewn rhyw fodd neui gilydd; ac fel y gwyddys, prin fu ymdriniaethau or fath ar gynghanedd, o leiaf ar lefel boblogaidd. Mae yna ysgrif bwysig gan Grug Muse syn olrhain llinach barddoniaeth gaeth gan fenywod, a hefyd yr agweddau cul a wnaeth eu hallgau or sin gynganeddol, a hynny hyd nes yn ddiweddar iawn os nad hyd y dydd hwn. Dengys sut maer sin ai thriniaeth o fenywod yn ganlyniad dethol bwriadol gan y rheiny syn meddu ar rym, ac nid oes dim naturiol yn ei chylch. A dadlennol yw ysgrif Tudur Hallam ar ddamcaniaethu R. M. Jones ynghylch y gynghanedd. Amlygar fath feddwl beirniadol, gwreiddiol a gaed ynghylch y gynghanedd, er bod y cyfryw feddwl wedi cael ei anwybyddu neu ei ddrwgdybio gan y sefydliad ceidwadol, i raddau helaeth. Mwynheais hefyd ysgrif Mererid Hopwood syn mentro cysylltur gynghanedd, fel cyfundrefn acennol, ag iaith ei hun sef a gramadeg ei hun. Yn hynny o beth, cawn olwg ar y gynghanedd fel rhywbeth syml a chynhenid' syn llechu yn lleferydd pawb, yn hytrach nar dethol rai yn unig. Dyma gyfrol syn cynnig digon i bori arno. -- Morgan Owen @ www.gwales.com

Table of Contents

Cyfranwyr ir gyfrol: A. Cynfael Lake, Alan Llwyd, Aneirin Karadog (gol.), Annes Glynn, Anwen Pierce, Caryl Bryn, Ceri Wyn Jones, Emyr Davies, Emyr Lewis, Eurig Salisbury (gol.), Gruffudd Antur, Grug Muse, Hywel Griffiths, Idris Reynolds, Iwan Rhys, Jim Parc Nest, Llyr Gwyn Lewis, Mei Mac, Mererid Hopwood, Myrddin ap Dafydd, Philippa Gibson, Rhys Dafis, Rhys Iorwerth, Tudur Dylan Jones, Tudur Hallam, Twm Morys.

Additional information

GOR011478845
9781911584391
1911584391
Y Gynghanedd Heddiw by Cyhoeddiadau Barddas
Used - Very Good
Paperback
Cyhoeddiadau Barddas
2020-12-11
196
N/A
Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.
This is a used book - there is no escaping the fact it has been read by someone else and it will show signs of wear and previous use. Overall we expect it to be in very good condition, but if you are not entirely satisfied please get in touch with us

Customer Reviews - Y Gynghanedd Heddiw