Mae hon yn nofel lwyddiannus, boblogaidd arall a gyhoeddwyd gan Atebol ac wedi'i hysgrifennu gan yr awdur a dirgrifwr byd-enwog David Walliams, sydd unwaith eto wedi llwyddo i gyflwyno cydbwysedd da rhwng hiwmor a themau sy'n seiliedig ar broblemau cyffredin ddydd i ddydd llawer ohonom ni. Tony Ross sy'n gyfrifol am yr arlunwaith rhagorol, ac mae'r nofel wedi'i haddasu'n ddeheuig iawn i'r Gymraeg gan Mared Llwyd. Mae Twm yn debyg iawn i bob bachgen un ar ddeg mlwydd oed arall, heblaw am un peth bach - mae Twm Sglods yn fab i filiwnydd cyfoethocaf y byd ac yn etifedd i gwmni rhyngwladol ei dad SYCHDIN (y cwmni, nid ei dad) ac mae'n cael can mil o bunnoedd o arian poced yn wythnosol! Mi fyddech yn disgwyl ei fod yn hapus a bodlon ei fyd; wedi'r cyfan roedd ganddo bopeth y gallai arian ei brynu, ond mae un peth mawr ar goll yn ei fywyd, sef ffrind. Wedi'r cyfan, dydi cael trac rasio fformiwla un na sleid ddwr anferth yn mynd mewn i bwll nofio maint Olympaidd ddim yn llawer o hwyl heb ffrind i'w rhannu, yn nac ydi? Mae Twm yn benderfynol o gael ffrind! Hyd yn oed os yw hynny'n golygu mynychu ei ysgol uwchradd leol! Yno mae'n cwrdd ag Elliw, ac yn tybio o'r diwedd ei fod wedi cwrdd a merch ei freuddwydion, ond a ydi Elliw wir mor brydferth a pherffaith ag y mae hi'n ymddangos ar yr olwg gyntaf? Neu ydi hi'n sguthan ddauwynebog a thwyllodrus? Mae'n llyfr llawn hiwmor sydd a chymeriadau difyr a doniol sy'n dilyn Twm, y biliwnydd bach, ar ei gais i ddarganfod gwir ystyr cyfeillgarwch a chariad. Mae'r nofel, sy'n 275 tudalen o hyd, yn addas i blant (ac oedolion) 8 oed a hyn ac mae'n bendant yn siwr o wneud i chi chwerthin! -- Awen Dafydd @ www.gwales.com