Mae hen bobl yn bethau diflas, on'd ydyn? Mae nhw'n drewi o fresych hefyd ac mae eu penolau nhw'n gwichian. Dyna farn Ben yn y nofel hon gan y digrifwr enwog David Walliams. Mae hi eisoes wedi bod yn llwyddiant yn Saesneg ac ar y sgrin, ac mae hi'n gweithio gystal bob tamaid yn Gymraeg hefyd. Mae Ben yn gyndyn iawn o fynd i dy ei Nain. Mae o'n casau arogl ei nain ac yn casau chwarae Scrabble. Dydi Mam Ben ddim yn or-hoff o fynd i'w thy chwaith, ond mae'n rhaid i Ben fynd yno oherwydd does dim byd yn rhwystro'i rieni rhag mynd i'w sesiwn 'Dawnsio gyda'r Ser'. Yr unig beth y mae Ben yn ei hoffi am Nana ydi ei llyfrau gangsters a maffia, ac ymhen hir a hwyr, mae'n dod yn eithaf amlwg nad ydi Nana'n angel o bell ffordd. Dydi hi ddim yn eich synnu fod y nofel hon yn llawn o hiwmor hyd at y diweddglo sydd yn dorcalonnus ac eto yn driw i'r stori yr un pryd. Trwy ei darllen, mae'n eithaf amlwg nad ydi hen bobl mor ddiflas a hynny - ceir hanesion yma am yr heddlu, am ei Mawrhydi'r Frenhines ac am blymio i ddyfnderoedd afon Tafwys. Mmm ... ydy eich Nana chi'n giamstar o gangster hefyd, yn slei bach? Dach chi byth yn gwybod ... -- Llinos Griffin @ www.gwales.com