Cart
Free US shipping over $10
Proud to be B-Corp

Dagrau Tost - Cerddi Aber-fan E. Wyn James

Dagrau Tost - Cerddi Aber-fan By E. Wyn James

Dagrau Tost - Cerddi Aber-fan by E. Wyn James


$10.00
Condition - Very Good
Only 1 left

Summary

An anthology of poetry which brings together, for the first time, poetry relating to the Aber-fan disaster of October 1966.

Dagrau Tost - Cerddi Aber-fan Summary

Dagrau Tost - Cerddi Aber-fan by E. Wyn James

An anthology of poetry which brings together, for the first time, poetry relating to the Aber-fan disaster of October 1966.

Dagrau Tost - Cerddi Aber-fan Reviews

Ym mis Hydref 1966 daeth pentref Aber-fan yn ffocws sylw a chydymdeimlad y byd cyfan yn sgil y ddamwain lofaol fwyaf ingol a fu erioed. Daeth hefyd yn ffocws i gorff o farddoniaeth Gymraeg ddigon trawiadol ac amrywiol wrth i'r beirdd hwythau ymateb i'r drychineb. Diben y gyfrol hon yw cywain y canu hwnnw ynghyd am y tro cyntaf a'i osod o fewn cyd-destun priodol, a hynny adeg 50 mlwyddiant y digwyddiad yn 2016. Bydd y gyfrol yn cynnwys: *rhagymadrodd cyffredinol sy'n rhoi portread o bentref Aber-fan ar ganol yr ugeinfed ganrif gan ei osod o fewn fframwaith hanesyddol / cymdeithasol /diwydiannol, a hefyd hanes y drychineb ei hun *rhagymadrodd beirniadol sy'n cynnig trafodaeth feirniadol ar y cerddi *casgliad o tua 60 o gerddi: ceir yma ganu caeth a chanu rhydd; englyn ac awdl a chywydd; cerddi hir a rhai byr. Ceir amrywiaeth diddorol hefyd o ran y beirdd a gynrychiolir, sydd yn eithaf croestoriad o ran oed a chefndir a lleoliad daearyddol - rhai ohonynt yn enwau amlwg iawn megis Gwenallt, Bobi Jones ac Iwan Llwyd, ond eraill yn feirdd gwlad digon 'diarffordd'. Mae yma gerddi a gyhoeddwyd ar y pryd a rhai a ymddangosodd ymhen blynyddoedd wedyn. Caiff y cerddi eu rhannu'n adrannau o dan y teitlau: Prolog, Naratif, Y Cnwd Cyntaf (1966-1973), Adlodd, Epilog. *nodiadau: ar gyfer pob cerdd rhoddir manylion bywgraffyddol cryno am y bardd, a nodi'r man(nau) lle y cyhoeddwyd y gerdd o'r blaen. Cynhwysir hefyd nodiadau dethol ar gyfeiriadaeth yn y cerddi nas trafodwyd eisoes yn y rhagymadrodd beirniadol. *lluniau (du a gwyn) a fydd yn ychwanegiad gweledol gwerthfawr i'r cerddi. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Gyferbyn a thudalen deitl y gyfrol ingol hon ceir llun sy'n crisialu trychineb a newidiodd fywydau cannoedd o drigolion Aber-fan am byth. Llun cloc sydd yno, cloc larwm cleisiog, ei fysedd wedi'u rhewi ac yn dangos 9.13 y bore. Y dyddiad oedd dydd Gwener, 21 Hydref 1966. Seriwyd y dyddiad a'r amser ar eneidiau'r genedl. Boddwyd Ysgol Pantglas gan gyfog trioglyd Tip 7, y slyri marwol a fygodd ac a ddarniodd gyrff 116 o blant a 28 o oedolion. Hanner canrif yn ddiweddarach ac mae trychineb Aber-fan yn rhannu'r seice cenedlaethol a thrychinebau Coed Mametz a Senghennydd. Yn y rhagair cawn amlinelliad o fwriad y gyfrol sef 'edrych yn benodol ar ymateb y beirdd Cymraeg i'r digwyddiad'. Cyfeirir at swyddogaeth gymdeithasol beirdd dros y canrifoedd 'i fod yn llais i ddelfrydau a dyheadau ac i ofnau a safbwyntiau eu cymunedau'. Ceir wedyn ragymadrodd cyfansawdd yn croniclo datblygiad y diwydiant glo yn ne Cymru, yn ardal Merthyr Tudful yn arbennig. Craidd y gyfrol yw'r casgliad o gerddi a gyfansoddwyd ar y pryd ac wedyn, fel ymateb i'r trychineb. Mae'r casgliad yn un swmpus ac amrywiol o waith beirdd amlwg a beirdd llai enwog. Mae'r farddoniaeth ei hun yn amrywiol hefyd, o gerddi cignoeth Gwenallt i alargan dyner Mererid Hopwood. Addas iawn fu agor y flodeugerdd gyda cherdd hyfryd Rhydwen Williams, 'Yn Nheyrnas Diniweidrwydd'. Mae gosod y gerdd hudolus hon fel arweiniad i gerddi sy'n darlunio bryntni'r trychineb yn dra eironig. Yn dyfnhau'r pathos ac yn ailgynnau'r cof ceir nifer o ffotograffau du a gwyn, atgofion didostur o'r hyn a ddigwyddodd hanner canrif yn ol. Mae'r darlun ar y clawr yn ddigon ynddo'i hun i ennyn dagrau. Ysgol Pantglas yn sarn, a bachgen yn cysuro bachgen iau, braich y mawr yn dyner dros ysgwydd y bychan. Ni wnaf feiddio dewis fy hoff gerddi o blith y pedwar ugain a mwy. Fe fyddai hynny fel gorfod dewis arch o blith casgliad o eirch. Ac eto mae rhyw harddwch yn yr anlladrwydd a adlewyrchir yn amryw o'r cerddi. Enynnant emosiynau'n amrywio o alar i ddicter. Cyfyd y cwestiwn, 'Pam y caiff bwystfilod rheibus / Dorri'r egin man i lawr?' Dyma gyfrol y bydd rhywun yn dychwelyd ati dro ar ol tro, nid i'w mwynhau, ond er mwyn peidio ag anghofio. Cyfyd pob math o emosiynau - galaru, cyhuddo, rhwystredigaeth, dicter, cofio. Mae'r emosiynau'n dren. Mae brawddeg ola'r rhagymadrodd yn crynhoi'r cyfan: 'Senghennydd 1913. Aber-fan 1966. Hanner canrif, a beth - ie, beth, yn wir - oedd wedi newid?' Yr ateb anochel yw 'Dim byd'. -- Lyn Ebenezer @ www.gwales.com

Table of Contents

Rhagair Rhagymadrodd PROLOG YN NHEYRNAS DINIWEIDRWYDD - Rhydwen Williams Y TIPIAU - D. Gwenallt Jones PAN OEDDWN FACHGEN - Pennar Davies NARATIF TRYCHINEB ABER-FAN - D. Gwenallt Jones Y CNWD CYNTAF (1966-1973) ABER-FAN (21 Hydref 1966) - T. Llew Jones ABER-FAN - Abiah Roderick HYDREF 21 - Ellis Aethwy Jones DUEWCH ABER-FAN - Mathonwy Hughes ABER-FAN - Robert Williams ABER-FAN - P. J. Beddoe Jones ABER-FAN - Islwyn Lloyd TRYCHINEB ABER-FAN - Lisi Jones TRIOLEDAU I'R FRENHINES - Huw T. Edwards ABER-FAN - Ithel Davies ABER-FAN Hydref 1966 - John Fitzgerald TRYCHINEB ABER-FAN - John Llywelyn Roberts PLANT ABER-FAN - Glyn Hopkins TRYCHINEB ERCHYLL ABER-FAN 21 Hydref 1966 - D. T. Jones ABER-FAN -T. I. Phillips HYDREF - Jack Oliver TRYCHINEB ABER-FAN - R. D. Roberts BALED ABER-FAN - Eric Wyn Roberts ABER-FAN - Harry Williams YSGUBAU - Owen D. Timothy NADOLIG 1966 - D. J. Thomas NADOLIG ABER-FAN -J. Rhys Jones NADOLIG 1966 - John Roberts TYMOR NADOLIG 1966 - Huw Llewelyn Williams TOMEN MAMON (Aber-fan) - T. E. Nicholas ABER-FAN - William Jones TRYCHINEB ABER-FAN - Bobi Jones ABER-FAN - W. Leslie Richards ABER-FAN - Wil Morgan TRYCHINEB ABER-FAN - J. Arthur Thomas TRYCHINEB ABER-FAN 1966 - S. O. Thomas ABER-FAN - Nia Wynne Griffiths CWMWL - 'Rhiandaid', Aberpennar ABER-FAN - Sioned Roberts EMYN DIOLCH - T. E. Nicholas ABER-FAN - Owen Morgan TRYCHINEB ABER-FAN - (Mrs) M. A. Thomas YN IEUENCTID Y DYDD (Er cof am blant Aber-fan) - John Hywyn Edwards FFYLIAID Y DDAEAR Yn Aber-fan, 26 Mehefin 1968 - L. Haydn Lewis ABER-FAN - Elisabeth Roberts ABER-FAN - Robert Owen Y GRAITH (ABER-FAN) - Eifion Roberts Y TIP (myfyrdod yn ddeunaw oed) - Mair Angharad ABER-FAN - D. Jacob Davies I RIENI ABER-FAN - Margaret Bowen Rees ABER-FAN - Gilbert Ruddock ADLODD (1974-2016) ABER-FAN A CHATRAETH - Aled Islwyn TRYCHINEB ABER-FAN - Roger Jones ABER-FAN - Aeron Davies RHOSYNNAU ABER-FAN - Euros Bowen ABER-FAN - Sheila Douglas / addasiad Siwsann George YN Y CAR - Geraint Elfyn Jones TRIDIAU YN ABER-FAN - Emrys Roberts ABER-FAn - Rhydwen Williams ABER-FAN - Aled Lewis Evans ABER-FAN - Delwyn Sion ABER-FAN 1989 - Iwan Llwyd COFIO ABER-FAN (1966-1991) - Alan Llwyd ABER-FAN II ('Roedd yn caru rhyddid a golau...') - Delwyn Sion PENTRE ABER-FAN - Edward Jones YR ANGLADD - Gwilym Herber Williams GORCHUDD - Gwilym Herber Williams Y DWTHWN HWNNW - Dic Jones METHU (Aber-fan) - Idris Reynolds TEULUOEDD ABER-FAN - Aron Pritchard ABER-FAN (HYDREF 21, 1966) - John Phillips ABER-FAN - Gwyneth Glyn ABER-FAN - Ceri Wyn Jones PWLL GLO GER ABER-FAN - Dai Rees Davies ECO - Emyr Roberts ATEB (Cofrestr Ysgol Pant-glas, Aber-fan)- Gruffudd Eifion Owen ABER-FAN - Andrew Shurey ABER-FAN - O'r cylchgrawn 'Gweidd' (2012) BETHANIA: ABER-FAN - Christine James DISGWYL - Christine James TRYCHINEB - Marged Selway-Jones PENTREF - Geraint Roberts ABER-FAN 2016 - Myrddin ap Dafydd LACRIMOSA 'MABAN GLAN - Mererid Hopwood EPILOG SENGHENNYDD - T. Gwynn Jones Nodiadau ar y Cerddi, y Beirdd a'u Cefndir

Additional information

GOR008103157
9781906396978
1906396973
Dagrau Tost - Cerddi Aber-fan by E. Wyn James
Used - Very Good
Paperback
Cyhoeddiadau Barddas
20160726
240
N/A
Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.
This is a used book - there is no escaping the fact it has been read by someone else and it will show signs of wear and previous use. Overall we expect it to be in very good condition, but if you are not entirely satisfied please get in touch with us

Customer Reviews - Dagrau Tost - Cerddi Aber-fan