Ydyn ni wedi cyrraedd pwynt mewn llenyddiaeth Gymraeg lle gallwn ni ddisgrifio llyfr fel llyfr ffeminyddol heb fod hwnnwn derm dilornus, term y gallwn ei ddefnyddio, nid i roi bardd mewn bocs cyfyng, ond yn hytrach i ddisgrifior ffordd maen edrych ar y byd yn fan cychwyn, nid yn llinell derfyn? Cyfrol ffeminyddol yw cyfrol Elin ap Hywel, yn ddigwestiwn. Mae hin gyfrol syn diorseddu a datganoli ffigwr y gwryw fel y safbwynt niwtral neu normal, a hynnyn gwbl fwriadol. Maer gerdd agoriadol, Pwy oedd chwiorydd Heledd?, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn chwyldroadol 1986 o gyfnodolyn Y Traethodydd, yn ddatganiad diamwys o fwriad. Y mae hin un o sawl cerdd yn y gyfrol syn ailddychmygu chwedlau Cymreig o safbwynt y cymeriadau benywaidd; cymeriadau a wnaed yn fud yn y fersiynau cyfarwydd. Dyma Flodeuwedd, ar ffurf tylluan sydd wedi dechrau ymgynefino / ag adareiddrwydd, neu Rhiannon, syn dianc rhag ffiniaur stori ac or llun y mae rhywun wedi ceisio ei dynnu ohoni, gan gerdded allan or darlun, yn syth i lygad yr haul. Wrth adrodd stori o safbwynt gwahanol, maer stori ei hun yn newid, hyd yn oed os ywr digwyddiadau yn aros yr un peth. Beth syn digwydd pan fydd traddodiad yn cael ei herio? Dychmygwyd na allai Cymru ar Gymraeg fodoli heb y sefydliadau ar traddodiadau ai cynhaliai, a dyma wreiddyn yr ofn yn wyneb unrhyw achos, fel ffeminyddiaeth, a heriai werthoedd y sefydliadau hynny. Ond yn y gerdd agoriadol, mae Elin ap Hywel yn mynd a ni i dir neb byd heb bileri: Diffoddwyd aelwyd gwarineb. Pa le mae pileri cymdeithas, cynefin a char? Heno, gwallgofrwydd syn gysefin Mae Elin ap Hywel yn mentro dychmygu dyfodol yr ochr draw ir sefydliad, y tu hwnt i draddodiad. Maen ein gwadd i ystyried hanes o safbwynt nad ywn canolir profiad gwrywaidd, ac o wneud hynny nid ywr tir neb hwn mor ofnadwy ag a ddychmygem i ddechrau. Down i sylweddoli, efallai, nad oedd y sefydliadau hynny mor anhepgor wedir cyfan. A pha sawl Heledd fun crwydro lonydd cefn hanes Cymru au cywilydd yn glynu fel gelen wrth eu cydwybod nes camu tu hwnt ir ffin syn beryclach nar llinell ar fap rhwng Cymro a Sais? Mae yna obaith yng ngherddi Elin ap Hywel, am Gymru lai ofnus, am Gymreictod llai bregus, ac am bethau syn cael eu torri, ac ou trwsio, eu gwneud yn bethau gwell. -- Elan Grug Muse @ www.gwales.com