Mae darllen nofel gyntaf unrhyw awdur yn brofiad braf iawn - y gobeithion, y cyffro a'r ysfa i ddarganfod llais llenyddol newydd. Ac yn wir, wnaeth nofel gyntaf Gareth Evans-Jones, sy'n ddarlithydd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor, ddim siomi o gwbl yn hynny o beth. Nofel dwt a chryno yw Eira Llwyd sy'n mynd i'r afael ag un o gyfnodau mwyaf dirdynnol ein hanes ni yn ystod y ganrif ddiwethaf, sef profiadau tri Iddew sydd wedi'u carcharu gan y Natsiaid yn ystod yr Holocost. Mae rhyw wedd ddyddiadurol i'r nofel ond mae gwead ac arddull y dweud yn gynnil, sylwgar a choeth dros ben, gyda rhyw naws sinematig yn y modd y dadlennir profiadau'r tri chymeriad mewn pytiau byrion wedi'u rhyngblethu'n grefftus yn ei gilydd. Mae pob pennod wedi'i rhannu'n gyfres o gameos bychan, sy'n cynnig mewnwelediad eithriadol boenus ar adegau i fywyd dyddiol mewn gwersyll dan reolaeth ddidostur y Natsiaid. Mae'r cameos bychain yma fel rhyw swigod sy'n ymddangos ac yna'n diflannu, ac yn y gofod a adewir o'u hol, mae yna archoll a cholled a phoen ddirdynnol. Weithiau, mae'r boen yn fwy, o ystyried yr hyn nad yw'n cael ei ddweud. O ystyried diwyg y gyfrol, gydag adrannau gwahanol wedi'u cyflwyno mewn ffontiau gwahanol i adlewyrchu stori'r gwahanol gymeriadau, fe allai'r rhai sy'n dymuno gwneud hynny olrhain stori bob cymeriad ar wahan - o straeon yr oedolion stoicaidd i stori'r ferch ifanc sydd wedi'i gyrru i'r gwersyll gyda'i mam. Ond mae'r modd y mae'r straeon wedi'u cydblethu'n rhoi dyfnder arbennig i'r gyfrol, gan danlinellu'r creulondeb oedd i'w weld yn drwch dan drefn y Natsiaid. Fel darllenydd, mae'n siwr mai diolch i'r awdur y dylwn i ei wneud am gyflwyno'i stori yn y fath fodd pytiog a chynnil. Roedd ambell adran yn gwneud i mi wingo ac arswydo ac yn peri i mi droi'n groen gwydd drosta i i gyd, a thrwy osgoi llusgo'r profiadau allan yn ormodol, mae'r hyn sy'n cael ei ddweud yn fwy pwerus ac iasol. Oes, mae yma ddioddef enbyd, ond mae yma ddyngarwch a chydymdeimlad hefyd rhwng y dioddefwyr a'i gilydd, a hynny sy'n rhoi'r llygedyn lleiaf o obaith wrth i amser fynd yn ei flaen. Chwip o nofel gyntaf gan awdur sensitif, deallus a sicr iawn ei grefft. -- Sioned Lleinau @ www.gwales.com