'Maen nhw'n dweud fy mod i'n gleniach yn Gymraeg' - dyma eiriau R. S. Thomas ei hun. Ac y mae'r casgliad hwn o ysgrifau gan gyfeillion Cymraeg y bardd fel petai'n cadarnhau hynny. Mae'n debyg mai i Gareth Neigwl y dylem ddiolch am gasglu'r holl ddeunydd ynghyd, ac i Geraint Jones, Trefor, am ei olygu. Wrth gwrs, roedd R. S. yn dipyn o enigma i'r Cymry a'r Saeson fel ei gilydd. Pan fyddai'n ysgrifennu neu'n siarad Saesneg, ymddangosai fel Sais diwylliedig o'r dosbarth canol uchaf, ac roedd y ddwy ferch a briododd, sef Mildred Eldridge a Betty Vernon, yn gwbwl ddi-Gymraeg. Ei sylw ef ar hynny, meddai Gwyn Thomas yn y gyfrol hon, oedd: 'Mae pethau'n wahanol lle y mae serch yn y cwestiwn.' Ydyn, o bosib, ond pam anfon Gwydion, ei fab, i ysgol breswyl Saesneg, nes troi hwnnw'n ddi-Gymraeg hefyd? Mae'r gyfrol hon yn brwsio rhyw baradocsau felly dan y carped yn gyfleus iawn, ac yn rhoi'r argraff fod R. S. Thomas yn Gymro hynod dwymgalon, ac yn wir, yn fwy eithafol Gymreig na'r cyfeillion sy'n sgwennu amdano yma. Ymysg y rheini y mae Gareth Neigwl, Geraint Jones (sawl gwaith), Robyn Lewis, Owain Williams, Emyr Humphreys, Byron Rogers, Mary Roberts, Ann Owen Vaughan, Alwyn Pritchard, Beti a'r diweddar John Arfon Huws. Nid rhyw barchusion sidet mo'r mwyafrif o'r rhain o bell ffordd, ond ymddengys R. S. dipyn ar y chwith i'r mwyaf gwrthryfelgar ohonynt. Diau mai fo oedd yn iawn hefyd, yn ei bendantrwydd yn pwysleisio y dylem ymarweddu fel Cymry uniaith, ac mai llugoer oedd y dwyieithrwydd y mynnai'r mwyafrif ohonom ei arddel. Doedd ryfedd iddo godi gwrychyn Dafydd Elis Thomas, a Dafydd Iwan hyd yn oed. Ymddengys R. S. yn y gyfrol hon yn 'hen foi iawn', yn llawer mwy dynol nag a wna mewn cyfrolau Seisnig dyfnddysg sy'n trafod hanfodion ei farddoniaeth. Ond y tebyg yw y byddai R. S. yn barod i adleisio geiriau Parry-Williams: 'Mae amryw byd ohonom yn fy nghlai.' Un o'r amryw byd hynny yw'r dyn sy'n cael ei bortreadu yn y gyfol hon. -- John Rowlands @ www.gwales.com