Roedd darllen y gyfrol hon yn fy atgoffa am y gyfres deledu ITV yn yr wythdegau, Tales of the Unexpected, cyfres a seiliwyd ar straeon gan Roald Dahl. Fel y straeon hyn, roedd Dahl yn cymryd sefyllfaoedd cyffredin y gallai pawb ohonom uniaethu gyda hwy a datgelu drwyddynt ryw ddigwyddiad dirgel oedd yn ymylu ar y dychrynllyd ac un yn sicr oedd yn peri ias oer ar y gwegil. Nid yw A:annisgwyl yn rhoi ias bob tro - mae rhai straeon yn codi ofn ac eraill yn ein gadael gyda chwilfrydedd pryfoclyd. Dro arall, mae diwedd y stori yn gynnes a chymwynasgar ac ar adegau eraill yn syndod. Mae hynny yn dyst i ddawn Gareth W. Williams i osgoi clo disgwyliedig unffurf - mae'r tro yn un amrywiol o hyd ac mae'r gyfrol ar ei hennill oherwydd hyn. Mae yn y gyfrol ddwsin o straeon, nifer yn straeon ysbryd ond mae yma straeon eraill hefyd. Mae'r stori gyntaf, 'Jerry', hanes Macaw yr oedd ei allu i siarad a dynwared yn allweddol mewn achos llofruddiaeth, yn enghraifft o stori ac iddi ddiweddglo difyr. Rwy'n sicr y byddai pob darllenydd yn ebychu Wrth gwrs! wrth ddarllen y datgeliad ar y diwedd, ond mae'r awdur wedi ei gadw tan y diwedd mewn dull cynnil a chyfrwys. Mewn gair gan yr awdur ar ddiwedd y gyfrol mae'n dweud bod y straeon wedi eu seilio ar elfennau o fy realiti i gan mwyaf. Mae hynny yn rhoi tinc real iawn i ambell stori a thrwy hynny yn deffro mwy o ymateb yn y darllenydd. Ond y stori ei hun sydd yn gyrru'r darllenydd yn gyson - cyfrol y dweud yw hon yn hytrach na chyfrol y cymeriadu, a dyna yw nodwedd angenrheidiol cyfrol o straeon yr annisgwyl. Dywed y broliant y bydd y gyfrol yn rhoi ambell sioc i'r darllenydd, ond yn bwysicach, efallai, mae'n gyfrol sydd yn rhoi ias oer i'r darllenydd. Dro arall mae'n gadael rhywun yn gegagored yn holi beth ar y ddaear ddigwyddodd yn y fan yna. Yn sicr mae'r a am annisgwyl yn cysylltu bob un stori. -- John Roberts @ www.gwales.com