Cyhoeddwyd nifer o'r cerddi amlycaf eisoes (er enghraifft yn Barddas a Taliesin a'r Cymro); yn eu plith ei gywyddau gorchestol i Bedwyr Lewis Jones, Dic Jones, a'r Cywydd Croeso i Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005.Fel y cerddi yn ei gyfrolau blaenorol, mae'r cerddi hyn yn ymdrin a'r chymreictod a chenedlaetholdeb, iaith, parhad, arwyr cenedlaethol, arwyr lleol, marwolaeth a cholled, crefydd, cof a thraddodiad. Mae ymdeimlo a breuder y pethau hynny sydd gennym ar ol yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol yn llinyn cyswllt rhwng nifer o gerddi'r casgliad hwn. Y mae yma hefyd ymwybyddiaeth ddofn o freuder bywyd dyn, ac o golli cyfeillion a chydnabod.
Mae'r gyfrol hon yn pontio ystod o 23 o flynyddoedd ers cyhoeddi'r gyfrol Cilmeri a Cherddi Eraill. Ynddi, cynhwysir: * 30 englyn unigol * 5 cyfres o englynion * 8 cywydd * 2 gerdd rydd * 22 o gwpledi/llinellau unigol (gwirebau) gyda'r cerddi mwyaf diweddar yn cael eu hysgrifennu ychydig fisoedd yn unig cyn ei farwolaeth. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Ers ei farwolaeth ym mis Gorffennaf 2014, ac yntau'n 69 oed, talwyd sawl teyrnged haeddiannol i Gerallt Lloyd Owen, y gwr y cyfeirir ato fel 'Gerallt yr holl weithgaredd' ym mhennawd erthygl gan Dafydd Iwan yn rhifyn coffa Gerallt o Barddas yn 2014. Ac o bori drwy'r gwahanol erthyglau yn y rhifyn coffa hwnnw, down i sylweddoli maint cyfraniad y gwr arbennig hwn i fywyd y Gymru Gymraeg, a faint roedd lles a pharhad y Gymru honno yn ei olygu iddo. Fel un o'n beirdd mwyaf praff a disglair y bydd y mwyafrif ohonom yn meddwl am Gerallt. Dyma'r bardd a roddodd i ni gyfrolau a oedd yn pigo cydwybod, a oedd yn llefaru wrthym yn ddiflewyn-ar-dafod, ac a oedd yn ein rhybuddio. Yn dilyn Ugain Oed a'i Ganiadau fe gawsom Cerddi'r Cywilydd ac yna'r gyfrol a enillodd iddo wobr Llyfr y Flwyddyn yn 1992, sef Cilmeri a Cherddi Eraill. 'Cilmeri', wrth gwrs, oedd yr awdl a enillodd iddo gadair Eisteddfod Abertawe yn 1982, yn dilyn ei lwyddiant gydag awdl 'Yr Afon' ym Mro Dwyfor ym 1975. Ac yn awr dyma gyhoeddi'r gyfrol olaf o gerddi Gerallt, Y Gan Olaf. Fel y dywed Gruffudd Antur yn ei ragair, roedd ofn ar Gerallt y byddai'n 'cyhoeddi cerdd neu ryddhau cerdd o'i afael a honno heb gyrraedd ei safonau uchel ef'. Ond Gerallt ei hun oedd wedi dewis a dethol cynnwys y gyfrol olaf hon, felly gallwn fod yn gwbl sicr o safon y cerddi. Gwelodd rhai ohonynt olau dydd eisoes ar dudalennau Barddas a Taliesin, yn ogystal a'r cywydd croeso a ysgrifennodd i Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau, 2005. Ac mae hwn yn gywydd croeso nodedig iawn, gan fod Gerallt yn bwrw iddi reit o'r cychwyn i'n rhybuddio rhag y bygythiadau sy'n rhoi'n gwlad, ein hiaith a'n traddodiadau mewn perygl. Oes, mae yma 'wledd o groeso heddiw', ond 'croeso dan amod yw'. Mae'n cyfeirio at y peryglon fel 'y llif yn bwyta'r llwyfan', ac amod y croeso yw 'ein bod, bedwar ban, yn rhwystro llifio'r llwyfan'. Ceir ambell delyneg fer, gryno yn y gyfrol, megis 'Y Ffynnon' a 'Cwm Maesglasau', a cheir sawl tudalen o gwpledi epigramatig hyfryd megis, 'Mae pob afon yn cronni ei dial o'i hatal hi' a 'Y cyw sicraf ei afael yw'r cyw nad yw'n arfer cael'. Ceir llinellau unigol ar ffurf diarhebion, megis 'Awr beryg' yw tri'r bore' a 'Ni wyr y pry' enw'r pren'. Ond cywyddau ac englynion yw prif gynnwys y gyfrol, a nifer o'r rheini'n gerddi coffa. Mae yma gywyddau gwych i gofio am Moses Glyn Jones, Bedwyr Lewis Jones ac eraill, ond i mi ei gywydd coffa i Dic Jones yw campwaith y gyfrol. Bu Dic a Gerallt yn gweithio gyda'i gilydd am flynyddoedd ar Talwrn y Beirdd ar y radio ac roedd y ddau'n gyfeillion mawr. Mae'r ing o golli cyfaill mor agos yn cael ei fynegi'n grefftus dros ben yn y cywydd hwn, ac yn atgoffa dyn o rai o gerddi coffa gwych Dic Jones ei hun. Mae'r un sglein ar bob un o'r englynion hefyd, fel y gellid disgwyl gan un a oedd yn feistr ar y mesur. Erys llinellau fel 'Nintendo yw plentyndod' a'r cwpled 'teledu'n teulu ydoedd, llond ty o ddiwylliant oedd' wrth iddo son am ei atgofion am Llwyd o'r Bryn. Cyfrol olaf deilwng iawn, felly, yw hon gan fardd a ddaeth yn ffefryn cenedl. Cofiwn ei ffraethineb a'i hiwmor wrth dalyrna yn yr Eisteddfod ac ar y radio, ond o dan y wen a'r chwerthiniad direidus roedd yna ddwyster mawr hefyd - dwyster gwr a boenai'n angerddol am ddyfodol ei iaith a'i genedl. Cyfrol werth ei phrynu, yn sicr. -- John Meurig Edwards @ www.gwales.com