Daeth y nofel hanesyddol Pieta i ben gyda Maria Stella Petronella yn dechrau ar ei bywyd priodasol ag Arglwydd Newborough, a hithau'n dair ar ddeg oed, gan adael ei mamwlad am Gymru ar ol plentyndod anhapus a chythryblus yn yr Eidal. Yn y dilyniant hwn gan Gwen Pritchard Jones, fe ailgyfarfyddwn a hi nifer o flynyddoedd a dwy briodas yn ddiweddarach ym Mharis. Erbyn hyn mae'r Farwnes Ungern-Sternberg ac Arglwyddes Newborough wedi cysegru ei bywyd i geisio profi unwaith ac am byth nad merch i gwnstabl cyffredin mohoni, ond iddi gael ei hamnewid yn y crud, ac mai merch Dug a Duges Orleans yw hi mewn gwirionedd. Darlun o wraig unig, obsesiynol a geir yn y portread o Maria druan, yn methu ymddiried yn neb, a heb wybod at bwy i droi i'w helpu ym myd dichellgar uchel wleidyddiaeth Ffrainc ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gyda Louis Phillipe, y dyn y mae Maria'n honni a gymerodd ei lle yn y teulu bonheddig, yng nghanol cynlluniau a chynllwynion i fod yn frenin, mae blaenoriaethau a diddordebau pob math o bobl yn y fantol, a does fawr neb am weld gwraig orffwyll yn bwrw amheuaeth ar ei hawl i esgyn i'r orsedd. Diolch byth, felly, am Elin Mair, morwyn Maria, sydd wedi dod i Baris o Lynllifon, ei chartref yng Nghymru. Ymhen amser daw hithau'n 'gompanion' i'w meistres, ac yn gymorth iddi, er bod gan Elin hithau ei rhesymau ei hun dros fod ym Mharis. Wrth i'r nofel ddatblygu, mae cymeriad Maria, a'i stori hefyd i raddau, yn pylu ychydig i'r cefndir, wrth i'r darllenydd gydymdeimlo mwy ag Elin a'i phrofiadau newydd a dieithr yng nghanol uchelwyr Ffrainc, gan gynnwys ei pherthynas anaddas a gwr ifanc sy'n ei swyno, ac ambell faux pas fel yfed gormod o win mewn achlysur cymdeithasol pwysig. Er bod hon, fel ei rhagflaenydd, yn nofel swmpus, mae mwy o gynildeb ynddi nag yn Pieta, ac mae'r cymeriadau ar y cyfan yn fwy crwn a chredadwy. Mae'r darlun a greir o'r cyfnod yn un difyr a lliwgar, ac yn aml mae'r darllenydd, fel Maria druan ei hun, yn ansicr pwy y dylai ymddiried ynddo. Ceir obsesiwn, penderfyniad, cariad a siom - ac yng nghymeriad Elin, arwres y gellir uniaethu a hi. Gyda throeon annisgwyl yr hanes yn mynd a ni o uchelfannau cymdeithas i lawr at y gwaelodion, dyma nofel fydd yn eich cadw'n darllen tan yr oriau man. -- Catrin Beard @ www.gwales.com