Cart
Free US shipping over $10
Proud to be B-Corp

Tair Mewn Un - Cerddi Detholedig Gwyneth Lewis

Tair Mewn Un - Cerddi Detholedig By Gwyneth Lewis

Tair Mewn Un - Cerddi Detholedig by Gwyneth Lewis


$18.99
Condition - Very Good
Only 1 left

Summary

A volume of poems to celebrate the appointment of Gwyneth Lewid to the post of National Poet of Wales. It is a selection of poems from three previous publications.

Tair Mewn Un - Cerddi Detholedig Summary

Tair Mewn Un - Cerddi Detholedig by Gwyneth Lewis

A volume of poems to celebrate the appointment of Gwyneth Lewid to the post of National Poet of Wales. It is a selection of poems from three previous publications.

Tair Mewn Un - Cerddi Detholedig Reviews

Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru maer teitl yma ynddoi hun yn siarad cyfrolau am y bardd amryddawn yma. Nid ar chwarae bach y derbyniodd hi y fath anrhydedd ym mis Ebrill 2005, ac wrth bori trwy gerddi Gwyneth Lewis rydych yn cael eich taro gan ei phrofiadau amrywiol ai gweledigaeth. Credaf fod Barddas iw llongyfarch am gasglu cerddi ei thair cyfrol at ei gilydd au rhoi dan yr un ymbarel. Heb os, mae yma amrywiaeth eang o ganu ond maer diferion i gyd yn rhan or un rhaeadr fyw a byrlymus syn ein harwain trwy daith bywyd y bardd. Ys dywed Gwyneth Lewis ei hunan yn Dadl rhwng Carma ar bardd: Prif waith Bardd yw cyfieithu profiad i iaith Yna geiriau iw gilydd. Ffrwyth dros bymtheng mlynedd a mwy o gyhoeddi barddoniaeth sydd yn y gyfrol. Agorir gyda Sonedau Resda a Cherddi Eraill a gyhoeddwyd gyntaf ym 1990. Cyfres o gerddi mewn mydr ac odl a geir yn Sonedau Resda ble maer bardd yn siarad yn uniongyrchol ai merch fedydd o Ynysoedd y Philippine. Mewn sonedau byw a theimladwy cyflwynir ni nid yn unig i Resda, y plentyn bach, ond mae yma hanes, llinach a thraddodiad ei gwlad ynghlwm yn yr hyn y maen ei etifeddu. . . . Ryw ddydd fe ddeellir llinellau hyn, Fy anrheg fedydd yw hanes dy wlad: Rhyfel, Magellan, y plas ar y bryn, Aberth Aquino, creulondeb a brad. Cofiar breuddwydion a chei fyw yn rhydd, Di blentyn y chwyldro, yng ngolaur dydd. Cawn yr un ymrwymiad cryf a thir a llinach yn 'Bro Ceridwen', yr ail oi phryddestau cynnar, ac yn wir mae adleisiau braf o Alun Mabon yn y gerdd. Ond cerddi saff, diogel ydynt mewn gwirionedd. Oes, mae yma fardd sydd eisiau torrin rhydd, a chicio yn erbyn y tresi, bardd sydd eisiau chwalu pob delwedd ddiogel, ond yn y cyfnod yma mae Dameg y ferch chwithig yn wir maer bardd fel petai yn y stad o fod rhwng, dros. Sefyllfa besimistaidd mewn ffordd, fel yn y gerdd Adeste Fideles: mae niwl y celwyddau / Dros Angaur Geni. Erbyn Cyfrif un ac un yn Dri ym 1996 cawn lais pendant y bardd llais profiad, efallai ac er nad ywr profiad hwnnw bob amser yn un pleserus mae'n llywior dyfodol: . . . mae eu hailddarllen [y cerddi] fel edrych i bwll fy isymwybod, ffynnon syn dangos rhai pethau afluniaidd, ond sydd yn proffwydor dyfodol, ys dywed Gwyneth Lewis yn ei rhagair i Tair Mewn Un. Does gan y bardd ddim ofn dweud ei dweud bellach ac mae yma wirioneddau mawr; gall wneud i ni deimlon gysurus ond ar yr un gwynt gall roi sioc annifyr i ni, megis Adar!. Teimlir, fodd bynnag, bod mwy o undod yma, mwy o ymdeimlad o berthyn megis yn Bedydd yn Llanbadarn a Hanner a Dymchwel y Wal, ac yn Ffosiliau dywed: Mor fain ywr haen rhwng yr oesau! Mae casgliadaur ail gyfrol yn awgrymur ymdeimlad o gylch a chysylltiad: Dolenni, Y Daith, Cylch amser, Cyfannu, Melodiau. Ceir cysylltiad rhwng byd natur a ffawd dyn dyfyniadau diarhebol bron syn rhy niferus iw cofnodin unigol. Beth am y delweddu yn Melodiau? Gyrrwn mewn twnnel o olau aur, Y llinell doredig fel cotwm gwyn, Ar car yn llyncu edafedd y ffordd. A fi oedd llygad y nodwydd. Cyhoeddwyd ei thrydedd gyfrol, Y Llofrudd Iaith, ym 1999, ac enillodd y gyfrol Wobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru. Yng ngeiriaur bardd ei hunan: . . . Fei hysgrifennais fel ymateb i ddatganiadau byrfyfyr a wnaed i ddathlu troir llanw yn y frwydr i achub yr iaith Gymraeg. Rhaid i mi gyfaddef fy mod wrth fy modd efo Y Llofrudd Iaith. Maer holl gasgliad yn undod llwyr, yn stori dditectif afaelgar, yn frith o syniadau gwreiddiol ac yn pigor gydwybod. Wrth bersonolir iaith fel mam, cawn olygfeydd byw a dadansoddiad or rhai syn codi amheuon ynglyn ai llofruddiaeth. Trwy amrywiol gerddi ceir cyffes, ymchwiliad, cyfweliad, toriadau papur newydd, adroddiad, tystiolaeth, ewyllys, a chasgliadau'n ymwneud ar llofruddiaeth. Maen rhoi darlun o fywyd cefn gwlad Cymru i ni ac wrth gyfeirio at farwr iaith fel llofruddiaeth maer argyfwng yn fwy difrifol nag erioed. Croniclir y sefyllfa yn Cyffes y Bardd: . . . fe fun ddynes anodd. Ond roedd angen hon. Dyma fy mhasport. Mwrdrais fy mam. Maer holl gasgliad yn gelfydd, yn brifo, yn wir ys dywed y bardd ei hunan, yn fwy pesimistaidd am y dyfodol nag yr oedd R. S. Thomas cyn iddo farw ond hefyd yn procio cydwybod pob un ohonom i weithredu gobeithio gan geisio sicrhau na fydd tynged yr iaith fel yn Ewyllys yr Iaith: . . . Yna taenwch fy llwch Ar y mynydd gydam gelyn, tawelwch. Maer llinellau mor gofiadwy, mor real, fel geiriau sydd i fod i gyd-fynd erioed; pa ddisgrifiad gwell o aelodau gwahanol y teulu na mae gan un Glogwyni Ar llall ogofau Dywed Gwyneth mewn cyfweliad a Barddas: mae pob bardd gwerth ei halen yn lladmerydd cenedlaethol, yn yr ystyr ei fod e neu hi yn myfyrion ddwfn am gyflwr diwylliant ac yn ymateb yn greadigol i hynny. Profa Y Llofrudd Iaith y ddamcaniaeth yma i mi. Yn Tair Mewn Un ceir hefyd dair cerdd newydd, tair ychwanegol, sydd eton damaid i aros pryd ac mae Gadael yn gerdd y bum yn myfyrio drosti droeon gan ddehongli rhywbeth newydd bob tro. Nid yw Gwyneth Lewis yn fardd ymddangosiadol syml. Maer cerddi yma iw darllen au hailddarllen mewn gwedd newydd o hyd. Nid yw'r hyn yr ysgrifenna amdano yn syml, yn ei holl ddweud ai wrthddweud, ond wrth fyfyrio dros y cerddi gellir gweld bywyd yn ei holl gyfanrwydd, or argyfwng gwacter ystyr i gylch bywyd a threfn anorfod natur. Nid oes ganddi ofn cyffwrdd a phynciau anodd neu arloesol: . . . ond mi ydw i eisoes wedi ysgrifennu am dechnoleg, cyflwr cefn gwlad Cymru, gwleidyddiaeth iaith a salwch meddwl, cwestiynau sydd yn themau Mawr i ni fel cenedl (Gwyneth Lewis mewn cyfweliad yn Barddas). Bardd crwn, bardd hanesyddol, bardd natur, bardd y gwirioneddau mawr sydd yr un mor gyfforddus yn barddoni yn Gymraeg neu yn Saesneg. Dyma gyfrol o farddoniaeth bwysig gan un o brif feirdd Cymru; cyfrol a fydd yn rhan allweddol o gasgliad y llenor brwd am flynyddoedd lawer neu o leiaf hyd y gwelwn nir gyfrol nesaf, efallai Pedair Mewn Un!. -- Andrea Parry @ www.gwales.com

Additional information

GOR013889053
9781900437691
1900437694
Tair Mewn Un - Cerddi Detholedig by Gwyneth Lewis
Used - Very Good
Paperback
Cyhoeddiadau Barddas
2005-07-25
156
N/A
Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.
This is a used book - there is no escaping the fact it has been read by someone else and it will show signs of wear and previous use. Overall we expect it to be in very good condition, but if you are not entirely satisfied please get in touch with us

Customer Reviews - Tair Mewn Un - Cerddi Detholedig