Ceir digonedd o gyfeiriadau pur sarhaus mewn testunau clasurol at y Scythiaid - gan yr Apostol Paul, er enghraifft, yn ei epistol at y Colosiaid (ac addas yw dyfynnu o'r hen gyfieithiad yma): Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth. Gan Shakespeare, yntau, yn Y Brenin Llyr, sonnir am 'the barbarous Scythian'. Heddiw, wrth i archaeoleg ein haddysgu'n well am y bobl hynny, cywirach yw meddwl am drigolion Sgythia, yr ardal sy'n cyfateb yn fras i rai o'r gwladwriaethau a arferai berthyn i orllewin yr Undeb Sofietaidd, fel pobl anrhydeddus, gyfoethog eu harferion, a oedd yn ymladdwyr da ac yn grefftwyr tan gamp. Beth sydd gan hyn oll i'w wneud a nofel olaf y diweddar Gwynn ap Gwilym, meddech chi? Wel, Sgythia yw'r llysenw a ddefnyddir gan yr awdur i gyfeirio at Fawddwy, yr ardal wledig, wyllt lle saif pentrefi Mallwyd a Dinas Mawddwy heddiw, a lleoliad y nofel eithriadol hon. Hanes un o drigolion mwyaf nodedig pentref Mallwyd, ac un y cysylltir ei enw'n ddiwahan a'r lle cyhyd ag y bo Cymry, a geir yn y nofel, sef yr ysgolhaig, yr offeiriad a'r cymwynaswr mawr o'r ail ganrif ar bymtheg, Dr John Davies. Pan benodwyd John Davies yn rheithor plwyf Mallwyd, ystyriwyd ei fod wedi'i anfon i ganol barbariaid, ac i ddiffeithwch diwylliannol a deallusol - heb son am fod yn lle peryglus ar y naw, a Gwylliaid Cochion Mawddwy yn dal i lechu yn y coed. I'r lle diarffordd a thlodaidd hwn daeth John Davies a phregethu grymus, dysg a doethineb enfawr, gan sefyll yn gadarn yn erbyn Pabyddiaeth - yr 'hen goel' - ac ofergoeliaeth ar adeg pan oedd yr eglwys wladol a'r Frenhiniaeth, dau sefydliad llawer mwy dylanwadol a grymus nag ydynt heddiw, mewn trybestod llwyr, a llywio cwrs gofalus rhwng creigiau llymion gwleidyddiaeth yr Eglwys a'r bonedd a drwgdybiaeth y werin leol. Ac yntau'n hirben a siriol yn wyneb siomedigaethau lu, adeiladodd John Davies ddinas dysg ym mherfeddwlad fynyddig Cymru, gan godi tai, pontydd ac eglwys sy'n gofadail barhaus iddo hyd heddiw. Ond ei wir etifeddiaeth yw ei waith - yn bennaf, addasiad John Davies o Feibl William Morgan a ddefnyddiwyd yn gyffredin rhwng 1620 a 1988 gan y Cymry, a gosodwyd seiliau'r Gymraeg fodern gan ei Ramadeg a'i Eiriadur Cymraeg-Lladin, heb son am ei waith yn casglu a diogelu cerddi'r beirdd canoloesol. Yn wir, gellid honni'n ddigon hyderus mai diolch i'r Doctor Dafis yr ydym ni'n dal i siarad, ysgrifennu a thrysori'r iaith heddiw. Lle digon dieithr yw Mallwyd yn negawdau cyntaf y 1600au, ac eto, nid yw'r darllenydd yn cael ei ddieithrio oddi wrtho, gystal yw gafael yr awdur ar ei destun, gan mor llwyr gyfarwydd ydyw a'r ardal (bu Gwynn ap Gwilym ei hun yn Rheithor Mallwyd am gyfnod), a chan mor fain yw ei glust at sgwrs gwreng a bonedd - ac at eu hiwmor. Mae hi'n glamp o nofel, yn llawn hyd at y distiau pren neu'r tyweirch mawn o gymeriadau lliwgar. Cynhwyswyd rhestr o gymeriadau ar y dechrau, ac fe allai pori drwy honno cyn bwrw iddi i ddarllen godi braw; peidiwch a digalonni, mae'r awdur yn feistr corn ar ei grefft ac mae hi'n ddigon hawdd cofio pwy yw pwy, a sut maen nhw'n perthyn i'w gilydd ac i'r hanes. Mae'n biti garw nad oes modd anrhydeddu awduron a gwobr Llyfr y Flwyddyn ar ol eu marwolaeth; nid oes amheuaeth y dylai Sgythia hawlio'i lle ymysg nofelau gorau 2018, onid y degawd ar ei hyd. Prin fod nofel hanesyddol arall a all ddal cannwyll iddi. Ysywaeth, ni chaniateir hynny. Y gymwynas orau y gellir ei thalu a'r diweddar Gwynn ap Gwilym felly yw darllen ei nofel, ei chymeradwyo i'ch cydnabod, a rhyfeddu lawn cymaint at gamp yr awdur yn yr unfed ganrif ar hugain ag at gampau ei wrthrych, bedwar can mlynedd yn ol. -- Bethan Mair @ www.gwales.com