Cart
Free US shipping over $10
Proud to be B-Corp

Cyfres Tonfedd Heddiw: Gadael Rhywbeth Iwan Huws

Cyfres Tonfedd Heddiw: Gadael Rhywbeth By Iwan Huws

Cyfres Tonfedd Heddiw: Gadael Rhywbeth by Iwan Huws


$11.69
Condition - Very Good
Only 1 left

Summary

The first volume of poems by popular musician and singer Iwan Huws.

Cyfres Tonfedd Heddiw: Gadael Rhywbeth Summary

Cyfres Tonfedd Heddiw: Gadael Rhywbeth by Iwan Huws

The first volume of poems by popular musician and singer Iwan Huws.

Cyfres Tonfedd Heddiw: Gadael Rhywbeth Reviews

Nid oedd yn syndod bod Iwan Huws am ryddhau casgliad o gerddi. Ac yn wahanol i gyfrol o farddoniaeth newydd gan rywun sydd heb fod yn rhan amlwg o'r sin nosweithiau barddonol na Talwrn y Beirdd, mae syniad go lew gennym am y safon fydd rhwng y cloriau. Mae Iwan yn gyfarwydd fel canwr a chyfansoddwr caneuon Cowbois Rhos Botwnnog, mae wedi rhyddhau albwm unigol yn ddiweddar, a chaiff ei ystyried gan feirdd a chantorion o bob haen, profiad ac arddull fel dipyn o feistr ar y geiriau. Nid neidiwr newydd sbon i bwll y beirdd mo'r bardd hwn, felly, ac yn wir mae rhai o ganeuon Cowbois (ac Iwan) yn y gyfrol. Mae hwn yn syniad da gan fod y caneuon nid yn unig yn haeddu eu lle ond maen nhw hefyd yn fodd o ddenu darllenwyr na fyddai, o bosib, yn sticio'u trwynau i dudalennau cyfrol o farddoniaeth hollol newydd iddynt. 'Blodau ar Dan yn Sbaen' yw un enghraifft, sy'n gan lle ro'n i wastad eisiau ei chwarae hi eto er mwyn ailwrando ar y geiriau a does dim angen gwneud bellach! Ac mi on in iawn i feddwl hynny gan ei bod yn gampwaith. Mae cynildeb eithriadol yn nodweddiadol or gyfrol oll, yn agor llwybrau i ni'r darllenwyr yn hytrach nan gwthio ar eu hyd. Nid y ddelwedd blaen ar cymariaethau arferol sydd gennym ni yn Gadael Rhywbeth. Y thema syn clymur cerddi at eu gilydd yw symud. A waeth pa mor araf, mae popeth yn symud, ac felly mae newid yn anochel. Dyma fyd y gyfrol, yn disgrifio heb esbonio, yn llawn myfyrio mwyn, meddylgar, melancolaidd. Fodd bynnag, cawn ambell beltan cyfrwys, annisgwyl, fel sydd yn gerdd 'Halltur Dydd'. Gwelwn eiriau caneuon fel 'Lle'r Awn i Godi Hiraeth', 'Deud y Byddain Disgwyl', a 'Tyrd, Olau Gwyn' yn cyd-deithio'n gytun a cherddi newydd am deulu a thylwyth, natur a thir, hen brofiadau a iasau newydd. Maen rhoi cliw tew am ei wreiddiau yn 'Mae Dy Gar din Rhy Fawr', (sydd ar ei albwm). Cyfaddefa Iwan yn ei gyflwyniad ei fod yn sal gan ofn wrth fynd ati i dywallt concrit dros eu pennau, ond heb os, diolch i'r drefn ei fod wedi cofnodir geiriau hyn. A don i byth yn siwr beth oedd y llinell yn dilyn Yn llac neun llym yn y gan 'Pan Fyddan nin Symud' chwaith, felly diolch yn benodol am fy ngoleuo, Iwan. Cyfrol fachog a chaboledig tu hwnt drwyddi draw yw hon. Arglwydd mawr, o'i ddweud mewn ffordd arall, maen dda. -- Hefin Jones @ www.gwales.com

Additional information

GOR013593535
9781911584223
1911584227
Cyfres Tonfedd Heddiw: Gadael Rhywbeth by Iwan Huws
Used - Very Good
Paperback
Cyhoeddiadau Barddas
2019-05-23
48
N/A
Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.
This is a used book - there is no escaping the fact it has been read by someone else and it will show signs of wear and previous use. Overall we expect it to be in very good condition, but if you are not entirely satisfied please get in touch with us

Customer Reviews - Cyfres Tonfedd Heddiw: Gadael Rhywbeth