Os nad ydych am ryw reswm rhyfedd wedi clywed am y gyfres Dyddiadur Dripsyn, sydd wedii haddasun gelfydd ir Gymraeg gan Owain Sion or gyfres fyd-enwog Diary of a Wimpy Kid gan Jeff Kinney, rydych ar eich colled yn fawr... Maer llyfrau yn son am fywyd ysgol uwchradd o bersbectif Greg Heffley, syn teimlo poenaur ysgol yn fawr iawn. Hon ywr chweched gyfrol yn y gyfres, ac yn sicr nid ywn siomi dilynwyr ffyddlon y gyfres, wrth i Greg ai anturiaethau ai droeon trwstan barhau mor cringy ag erioed; a'r tro hwn cwyno am dreulio cyfnod y Nadolig gydai deulu, yr Heffleys, y mae Greg. Yn ogystal ar portreadu realistig o ysgol ar adegau (yn enwedig wrth son am athrawon!), mae hin stori tu hwnt o ddigri a chartwnau comig iawn yn cyd-fynd ar testun. Maer lluniau yn gwneud y darllen yn haws a mwy hwylus, a hynny bob amser yn atyniad i ddarllen llyfr! Mae hyn yn enwedig o wir pan for stori yn boenus iw darllen e.e. Greg yn difetha paent car newydd sbon ei dad, gydar lluniau yn dod ar profiadau yn llawer mwy byw. Maen hawdd uniaethu a Greg, gan ei fod yn mynd i drwbl yn aml gydai deulu ar ysgol. Mae cymeriadau eraill yn y stori yn rhai unigryw ac yn rhwydd eu hoffi, neu beidio, e.e. diniweidrwydd Rowli ac annhegwch ei fam. Rwyf wedi darllen nifer or gyfres hon yn Saesneg, a rhaid dweud bod yr addasiad yn hynod dda ac yn darllen yn rhwydd iawn, ac nid ywr agwedd Americanaidd yn amharu gormod. Byddwn yn argymell y llyfrau yma i bawb; gall rhywun o unrhyw oedran eu codi i gael chwerthin, ond maen enwedig o addas ar gyfer plant 8 i 12 oed, ac yn apelion fawr at fechgyn yn arbennig. -- Peredur Morgan @ www.gwales.com